Mae pob oedolyn yng Nghymru wedi cael cynnig dos cyntaf o frechlyn Covid-19 wrth i Lywodraeth Cymru fwrw eu targed chwe wythnos yn gynnar.
Yn wreiddiol, roedd gwledydd Prydain yn dweud y byddai pob oedolyn wedi cael cynnig erbyn diwedd mis Gorffennaf.
Ac mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi addo y bydd pob oedolyn yng Nghymru wedi cael cynnig ail ddos erbyn diwedd mis Medi.
Cymru sydd â’r record frechu orau yn y byd am ddos cyntaf erbyn hyn, ond mae Lloegr a’r Alban yn gwneud yn well o ran rhoi ail ddos.
Fe wnaeth y prif weinidog Mark Drakeford addo yr wythnos ddiwethaf y byddai ei lywodraeth yn cyflymu’r broses o gynnig ail ddos i bobol.
Y gobaith yw rhoi 28,000 dos bob dydd dros yr haf.
Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i 75% o oedolion dderbyn y cynnig i gael dos cyntaf, ac mae Mark Drakeford yn dweud y bydd hynny’n gymorth wrth geisio llacio’r cyfyngiadau.
Amrywiolion
Yn ôl Mark Drakeford, mae’r cynnydd mewn achosion o Covid-19 sy’n gysylltiedig ag amrywiolion yn tanlinellu pwysigrwydd cael dau ddos o’r brechlyn.
Mae’n ffyddiog fod brechlynnau’n helpu i atal nifer o bobol rhag gorfod mynd i’r ysbyty i gael triniaeth o ganlyniad i amrywiolyn Alpha.
Ond dydy hi ddim yn glir eto a yw hynny’n wir yn achos amrywiolyn Delta.