Mae dyn o Benmachno yn amau iddo gael ei wrthod yng Nghanolfan Ailgylchu Llanrwst gan ei fod wedi bwcio drwy’r Gymraeg.

Pan nad oedd ei enw ar waith papur y ganolfan, dangosodd Ken Jones gadarnhad o’r bwcio ar ei ffôn i’r gweithwyr.

Er hynny, dywedodd un o’r gweithwyr wrtho “I don’t do Welsh”, ac er i Ken Jones drio adrodd y rhif cyfeirnod yn Saesneg iddyn nhw, ni chafodd adael ei sbwriel yn y ganolfan, sy’n cael ei rhedeg gan Gyngor Conwy.

Dydi hi ddim yn bosib i Ken Jones fod yn sicr mai oherwydd ei fod yn Gymro Cymraeg y cafodd ei wrthod, ond cafodd “fraw” gan yr ymateb, a dywedodd fod y “peth yn warthus”.

Mae’r Cynghorydd lleol wedi codi’r mater gyda Chyngor Conwy, ac mae Ken Jones yn aros i glywed yn ôl.

“Gwarthus”

“Roedd gwraig Hefin, fy mab, wedi bwcio ni mewn ar y we y diwrnod cynt, ac wedyn roedden ni wedi’i gael o’n Gymraeg,” meddai Ken Jones wrth golwg360.

“Doedden ni ddim i lawr ganddyn nhw ar y gwaith papur, felly es i o ’na.

“Fe wnaethon ni ffonio Catrin [gwraig Hefin], ac fe yrrodd hi’r peth drwodd i mi ar y ffôn, ac es i’n ôl yno a dangos o iddyn nhw.

“A dyma’r boi’n dweud “I don’t do Welsh, I can’t speak Welsh, I can’t read Welsh”.

“Felly dyma fi’n darllen y rhifau iddo fo, ond dim byd.

“Doedd gen i ddim papur yn fy llaw, nes i chwyddo’n ffôn iddo fo weld. Ond doedd yna ddim pwrpas.

“Roedd agwedd un ohonyn nhw yn waeth na’i gilydd, roedd yna dri ohonyn nhw i gyd.

“Ges i ffasiwn fraw bod o wedi dweud ffasiwn beth, a doeddwn i methu coelio… yn yr oes yma, ac yn Llanrwst.

“Mewn ffordd, ro’n i’n gweld y peth yn warthus.”

‘Ddim isio gwybod’

Ni chafodd Ken Jones a’i wraig adael y sbwriel yn y ganolfan ailgylchu, a bu’n siwrne wag yn y diwedd.

“Roedd o’n bymtheg milltir da erbyn mynd lawr yno ac yn ôl adra,” meddai Ken.

“Roedd fy ngwraig efo fi, ac fe ddywedodd hi ‘Dyda chi ddim yn serious? ‘Da ni’n trio ailgylchu’, a nhwthau’n gwrthod ni wedyn, a finnau’n dangos y cadarnhad iddyn nhw.

“Doedden nhw ddim isio gwybod.

“Dw i ddim yn gwybod os mai’r ffaith ein bod ni’n Gymry neu be oedd o ganddyn nhw, mae Wyn [Ellis Jones, y Cynghorydd dros Uwch Conwy], sydd ar Gyngor Conwy, wedi mynd â’r peth ymlaen at Gyngor Conwy.

“Maen nhw’n sbïo mewn iddo fo wan.”

Ymateb Cyngor Sir Conwy

“Rydym wedi derbyn cwyn gan Gynghorydd am un o’n canolfannau ailgylchu symudol yng nghanol Llanrwst, ac rydym yn ymchwilio i hyn drwy ein proses gwynion corfforaethol,” meddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.