Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyflwyno papur ar yr argyfwng ail gartrefi cyn diwedd y mis yma, yn ôl y prif weinidog Mark Drakeford.
Fe fu’n siarad â rhaglen Sunday Supplement y BBC ddoe (dydd Sul, Mehefin 7) wrth i nifer gynyddol o gymunedau Cymru fod dan bwysau oherwydd bod cartrefi’n cael eu prynu i’w defnyddio fel llety gwyliau neu i’w rhoi ar rent.
Mae hynny’n golygu bod prisiau’n cael eu gwthio i fyny fel bod pobol leol, yn enwedig y rhai sy’n prynu am y tro cyntaf, yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai ac yn gorfod symud o’u hardaloedd.
Mae pryder hefyd am effaith hynny ar gymunedau Cymraeg eu hiaith.
Yn ôl Mark Drakeford, fe fydd papur Llywodraeth Cymru “yn tynnu’r holl syniadau ynghyd ac yn rhoi cynigion ymarferol i ni eu hystyried”.
Dywedodd y byddai’r Llywodraeth Lafur yn barod i gydweithio â phleidiau eraill yn y Senedd i geisio cynnig ateb i’r sefyllfa ac i gryfhau’r mesurau sydd ar gael mewn ardaloedd i bobol “a gafodd eu geni a’u magu yno sydd eisiau gwneud eu dyfodol yn y rhannau hynny o Gymru” ond nad oes modd iddyn nhw wneud hynny ar hyn o bryd.
Wrth geisio mynd i’r afael â’r sefyllfa, fe fydd Llywodraeth Cymru’n ymateb i ymchwil gan Dr Simon Brooks o Brifysgol Abertawe ar effaith ail gartrefi, trethu a pholisïau cynllunio ar gymunedau Cymru.
‘Nid problem i’r Cymry Cymraeg yn unig yw’r argyfwng tai haf’
Dros y misoedd diwethaf mae cryn drafod wedi bod am yr her mae ail gartrefi yn ei beri i gymunedau’r Fro Gymraeg, ac mae ffocws mawr wedi bod ar Wynedd.
Ond mae sawl sir arall hefyd wedi eu heffeithio, ac mae Elwyn Vaughan, cynrychiolydd ward Glantwymyn ar Gyngor Sir Powys, yn eiddgar i dynnu sylw at yr heriau yn ei sir yntau.
Ym Mhowys, meddai, mae’n effeithio hefyd ar gymunedau nad ydynt â chanran uchel o siaradwyr Cymraeg.
Ac mae’r cynghorydd, sydd yn arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y cyngor, yn credu bod angen cydnabod nad problem i’r Gymru Gymraeg yn unig yw tai haf.
“[Trwy gydnabod hyn rydych yn] chwalu’r ddelwedd yma, mae rhai yn trïo creu, mai jest cenedlaetholwyr Cymraeg sydd yn cwyno,” meddai wrth golwg360 yn ddiweddar.
“Mewn gwirionedd, fel rydan ni gyd yn gwybod, mae yna sôn am Gernyw, mae sôn am Ardal y Llynnoedd [yn Lloegr] a’r problemau yn yr ardal honno.
“Mae o wir hefyd yn broblem lle dydy’r iaith ddim mor amlwg.
“Yma yng Nghymru bydden i’n tybio bod yr un peth [yn wir] am ardaloedd gwledig ym Mynwy er enghraifft – lle mae prisiau tai yn uchel.
“Ond mae o’n bendant yn wir, dw i’n gwybod, yn ardal y bannau, ardal y ffin – Llanandras, Trefyclo, yr ardal yna. Ac mae’n wir mewn ardal fwy gogleddol – ardal Llanfyllin, ardal Dyffryn Banw.
“[Mae’r ardaloedd yma] yn hwylus i bobol sy’n gweithio yn Amwythig, Croesoswallt, a Gaer ac ati. Felly mae o’n her.”