Mae’r heddlu’n ymchwilio i wrthdrawiad difrifol yng Nghaerdydd neithiwr (nos Sul, Mehefin 6), ar ôl i ddyn 28 oed gael ei gludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol.

Fe ddigwyddodd ger cyffordd 32 (Coryton) am oddeutu 6.45yh ar ôl i gar Vauxhall Astra lliw coch daro llain ganol yr M4.

Cafodd dyn 27 oed ei arestio yn y fan a’r lle ar amheuaeth o yrru’n beryglus, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Bu’n rhaid cau’r ffordd i’r ddau gyfeiriad am rai oriau tra bod ymchwiliad ar y gweill, ac mae’r heddlu wedi diolch i fodurwyr am eu hamynedd a’u cydweithrediad.

Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu’r car yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101.