Mae Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi cronfa gwerth £3m i helpu gofalwyr di-dâl i gael seibiant.

Bydd y gronfa’n gwella argaeledd ac ansawdd gwasanaethau, gan helpu i gefnogi gwaith gwerthfawr gofalwyr di-dâl, yn ôl y gweinidog.

Daw’r cyhoeddiad yn ystod Wythnos y Gofalwyr, sy’n taflu goleuni ar eu gwaith beunyddiol ac fe fydd y gronfa ar gael i gynnig cefnogaeth hyblyg i ddiwallu anghenion gofalwyr unigol gan gynnig ystod o opsiynau iddyn nhw.

Ymhlith yr opsiynau hynny mae cefnogaeth wyneb yn wyneb a chyfnodau byr o seibiant o’u cyfrifoldebau.

‘Digon i lethu rhywun’

“Gall yr effaith y mae gofalu yn ei chael, yn gorfforol ac yn emosiynol, fod yn ddigon i lethu rhywun,” meddai Julie Morgan.

“Mae gofalwyr di-dâl ym mhob cwr o Gymru yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymdeithas, ac maen nhw wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn ystod y pandemig.

“Maen nhw’n aml wedi ysgwyddo rhagor o gyfrifoldebau, gan gymryd llai o egwyl hefyd.

“Gall gwasanaethau seibiant gynnig achubiaeth a bydd y gronfa newydd hon yn sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn gallu cael egwyl fer o’u cyfrifoldebau gofalu.

“Nid yw gofalwyr di-dâl yn cael y gydnabyddiaeth y maen nhw’n ei haeddu gan gymdeithas ac mae’n hanfodol ein bod ni’n eu helpu nhw i ofalu am eu hiechyd a’u llesiant eu hunain.”

Ymgynghori ar Strategaeth ar gyfer Gofalwyr di-dâl

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae oddeutu 12% o bobol yng Nghymru’n gofalu am rywun, ac mae cyfran sylweddol ohonyn nhw’n gwneud hynny’n ddi-dâl.

Yn ôl ymgynghoriad ar y Strategaeth ar gyfer Gofalwyr di-dâl, mae nifer o ofalwyr yn teimlo bod eu lefelau straen a gorbryder yn uwch am nad ydyn nhw’n gallu cael mynediad at wasanaethau seibiant, mynd ar deithiau undydd neu adael eu cartrefi am gyfnodau hir yn ystod y pandemig Covid-19.

Bydd y £3m ar gael mewn dau gyfnod, gydag awdurdodau lleol yn derbyn £1.75m yn ystod y cyfnod cyntaf, gyda’r £1.25m sy’n weddill ar gael yn yr ail gyfnod i ariannu cronfa egwyl fer ledled Cymru.

Mae Ymddiriedolaeth y Gofalwyr Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad am y cyllid.

“Rydyn ni’n croesawu’r cyllid hwn yn fawr, yn arbennig o ystyried yr effaith sylweddol y mae’r pandemig wedi’i chael ar filoedd o ofalwyr di-dâl,” meddai’r Cyfarwyddwr Simon Hatch.

“Mae gofalwyr wedi bod yn dweud ers blynyddoedd lawer fod angen gwella’r cymorth gofal seibiant a ddarperir, a hyblygrwydd y cymorth hwnnw, yn sylweddol. Mae hwn yn ddechrau pwysig i ddatblygu’r cymorth seibiant y mae gofalwyr yng Nghymru yn ei haeddu.”