O heddiw (dydd Llun, Mehefin 7), mae mwy o bobol yn cael cyfarfod tu allan yng Nghymru, a hyd at dair aelwyd yn cael dod ynghyd i ffurfio swigen.

Bydd digwyddiadau tu allan sydd wedi’u trefnu ymlaen llaw, megis gemau pêl-droed a chyngherddau, yn cael mynd yn eu blaenau hefyd, gyda hyd at 4,000 o bobol yn sefyll, a 10,000 yn eistedd.

Cafodd y newid i’r rheolau eu cyhoeddi ddydd Gwener (Mehefin 4), ond mae pryderon am amrywiolyn Delta’n golygu nad yw Llywodraeth Cymru wedi llacio’r holl gyfyngiadau fel roedden nhw’n bwriadu.

Ymhen pythefnos, bydd chwe pherson o chwe aelwyd wahanol yn cael cyfarfod dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau, bydd llai o gyfyngiadau ar ddigwyddiadau dan do, a bydd canolfannau sglefrio iâ yn cael ailagor.

Am y bythefnos nesaf, uchafswm o 30 o bobol fydd yn cael mynd i briodasau, angladdau a the angladd tu mewn.

Golyga hyn na fydd Cymru’n symud yn llawn tuag at Lefel Rhybudd 1 nes Mehefin 21, a chymryd fod amodau iechyd y cyhoedd yn caniatáu.

Newidiadau

Heddiw (dydd Llun, Mehefin 7)

  • Grwpiau o hyd at 30 yn cael cyfarfod tu allan mewn gerddi preifat, mannau cyhoeddus a safleoedd lletygarwch tu allan.
  • Digwyddiadau awyr agored mawr fel cyngherddau, gemau pêl-droed a chlybiau rhedeg yn cael mynd yn eu blaenau gyda 4,000 o bobol yn sefyll, neu 10,000 o bobol yn eistedd.
  • Hyd at dair aelwyd yn cael ffurfio cartref estynedig, neu swigen, sy’n golygu eu bod nhw’n cael cyfarfod dan do heb gadw pellter cymdeithasol ac aros draw. Gall aelwyd ag un person sengl, neu riant sengl, ymuno â’r swigen.

Dydd Llun, Mehefin 21

Os yw’r cynlluniau i symud yn llawn at Lefel Rhybudd 1 yn mynd yn eu blaenau ar Fehefin 21 yng Nghymru, bydd chwe pherson yn cael cyfarfod mewn tai preifat, a bydd y swigod yn parhau i gynnwys hyd at dair aelwyd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn dal i gynghori pobol i weithio o adref, lle mae hynny’n bosib, a bydd yn rhaid dilyn mesurau pellter cymdeithasol a gwisgo masgiau ymhob man cyhoeddus dan do.

Bwriad yr oedi yw rhoi amser i fwy o bobol gael eu brechu, a chael yr ail ddos ac wrth gyhoeddi’r newidiadau, dywedodd Mark Drakeford “fod y perygl o gael eich heintio yn sylweddol is tu allan na thu mewn”.

“Dyna pam ein bod ni’n gwneud newidiadau yn raddol,” meddai.

“Bydd hyn yn caniatáu i fwy o bobol fwynhau digwyddiadau awyr agored a manteisio ar yr haf yng Nghymru, wrth i ni barhau i ddarparu brechiadau i bob oedolyn.

“Byddwn ni’n adolygu’r sefyllfa iechyd cyhoeddus eto ymhen ychydig o wythnosau er mwyn gweld a allwn ni barhau i lacio’r rheolau ac ailddechrau digwyddiadau tu mewn.”

Y sector digwyddiadau

Mae’r diwydiant digwyddiadau wedi beirniadu’r cynlluniau, gan eu bod nhw wedi gobeithio y byddai mwy o bobol yn cael mynychu digwyddiadau tu mewn o heddiw.

Er hynny, mae Mark Drakeford wedi pwysleisio bod y newid i’r rheolau ar gyfer digwyddiadau awyr agored yn berthnasol i briodasau ac angladdau.

“O ddydd Llun, bydd priodasau a derbyniadau tu allan yn disgyn o dan y trothwy 4,000 neu 10,000,” meddai.

Mae modd i fusnesau mewn sectorau oedd wedi disgwyl gweld llacio o heddiw wneud cais ar gyfer grant y Gronfa Cadernid Economaidd, gyda’r dyddiad cau wedi ymestyn i Fehefin 14.

Bwriad y grantiau yw helpu busnesau gyda chostau gweithredu ac mae’r grant ar gael i fusnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol sydd wedi dioddef yn sgil cyfyngiadau Covid.

Amrywiolyn Delta

Ddydd Gwener (Mehefin 4), cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod yna 97 achos o’r amrywiolyn Delta wedi’u cadarnhau yng Nghymru.

Roedd tua hanner yr achosion hyn yn Sir Conwy, tra bod dau achos wedi’u cadarnhau ym Mhorthmadog.

Mae pobol yn y cymunedau hyn yn cael eu hannog i gael prawf Covid, ac mae Mark Drakeford yn rhybuddio nad yw’r feirws wedi diflannu.

Dim marwolaethau Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru ers naw diwrnod

Ond rhybudd bod 97 achos o’r amrywiolyn Delta wedi eu cadarnhau yng Nghymru