Mae’r Coleg Plismona wedi cyhoeddi eu Cynllun Iaith Gymraeg cyntaf, sy’n “nodi eu hymrwymiad ac yn cefnogi heddluoedd Cymru”.

Amlinella’r cynllun sut y bydd y corff proffesiynol ar gyfer plismona yng Nghymru a Lloegr yn darparu rhai o’u gwasanaethau i’r cyhoedd, yn ogystal â chefnogi swyddogion a staff sy’n siarad Cymraeg.

Cafodd y cynllun ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Heddlu Gogledd Cymru, ac mae e wedi cael ei gymeradwyo gan Gomisiynydd y Gymraeg, ac mae’n dilyn Safonau’r Iaith Gymraeg sy’n ofynnol gan heddluoedd Cymru.

Mae gwaith i weithredu’r cynllun eisoes ar y gweill, gan gynnwys cyfieithu dogfennau allweddol a deunyddiau ategol.

“Cam mawr ymlaen”

“Rwy’n falch iawn o allu cefnogi plismona yng Nghymru fel hyn,” meddai Fiona Eldridge, Pennaeth Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu yn y Coleg.

“Mae’r Gymraeg yn iaith sy’n tyfu, ac mae gallu cynorthwyo siaradwyr Cymraeg mewn heddluoedd ac o fewn y cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu yn gam mawr ymlaen i’r Coleg.”

Dywed yr Arolygydd Gethin Jones, a arweiniodd ddatblygiad y cynllun pan oedd ar secondiad yn y Coleg, ei bod hi’n “wych” gweld bod y Coleg yn cefnogi’r Gymraeg.

“Rydw i wir wedi mwynhau gweithio gyda’r Coleg i ddatblygu’r darn pwysig hwn o waith,” meddai’r Cymro Cymraeg.

“Er nad oes unrhyw rwymedigaeth ffurfiol i’r Coleg gael cynllun, mae’n wych eu bod yn cefnogi’r Gymraeg fel hyn.

“Mae gweithio gyda’r Coleg wedi gwneud i mi weld cymaint y maent yn cefnogi plismona mewn meysydd hanfodol, ac rwy’n falch y bydd gan bobl o gymunedau Cymraeg eu hiaith nawr fwy o fynediad at y gefnogaeth honno hefyd.”

“Croesawu’r cymorth”

“Mae’n wych gweld y cynllun yn dwyn ffrwyth, ac rwy’n falch ein bod wedi gallu cydweithredu â’r Coleg ar y darn pwysig hwn o waith,” ychwanegodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Richard Debicki.

“Rwy’n gwybod y bydd Heddlu Gogledd Cymru a chydweithwyr plismona ledled Cymru yn croesawu’r cymorth ychwanegol y bydd hyn yn ei roi i gymunedau lleol a’n cydweithwyr sy’n siarad Cymraeg.”

Yn ôl Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, mae’r gwaith yn “gam hanfodol bwysig” i roi cymorth i siaradwyr Cymraeg.

“Rwyf yn falch bod Heddlu Gogledd Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn helpu’r Coleg Plismona i ddatblygu ei pholisi iaith Gymraeg newydd, ac yn benodol hoffwn ddiolch i’r Arolygydd Gethin Jones am ei waith caled a’i ymroddiad,” meddai wrth groesawu’r cynllun.

“Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cael canmoliaeth am arloesi’r defnydd o’r Gymraeg ym maes plismona, ac mae hyn yn gam hanfodol bwysig wrth roi cefnogaeth ymarferol i siaradwyr Cymraeg sy’n byw ac yn gweithio yn ein cymunedau.”