Mae arweinydd criw o Geidwadwyr sy’n gwrthryfela yn erbyn Boris Johnson yn dweud y bydd y Deyrnas Unedig i’w gweld yn “ddiffygiol” yn Uwchgynhadledd G7 oni bai eu bod nhw’n cefnu ar y cynllun i dorri cymorth rhyngwladol.

Ddechrau’r flwyddyn, penderfynodd Boris Johnson y byddai’n gwneud toriadau i gymorth rhyngwladol eleni, gan ei gwtogi o 0.7% o’r incwm cenedlaethol i 0.5%.

Mae’r toriadau’n golygu ei fod yn torri ymrwymiad a wnaeth ym maniffesto ei blaid yn 2019 i sicrhau bod 0.7% o’r incwm cenedlaethol yn mynd ar gymorth rhyngwladol.

Ers hynny, mae aelodau seneddol o bob plaid wedi ei feirniadu, ac mae’r cyn-Brif Weinidog Theresa May ymysg y rhai sy’n cefnogi’r gwelliant a fyddai’n golygu bod rhaid cael deddfwriaeth newydd i ariannu’r gwahaniaeth mewn cymorth rhyngwladol.

Ar hyn o bryd, mae’r prif weinidog yn wynebu gwrthdystiad gan 30 a aelodau seneddol Ceidwadol sy’n cefnogi’r gwelliant, ac fe allai wynebu pleidlais heddiw (dydd Llun, Mehefin 7).

“Hanfodol” cyfrannu’n deg

Dywed Andrew Mitchell, cyn-Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r gŵr sy’n arwain y gwrthdystiad, fod y diwygiad yn ymdrech i sicrhau y gall Boris Johnson gwrdd ag arweinwyr eraill Uwchgynhadledd G7 fel “y cyntaf ymysg cydraddolion”.

“Mae llygaid y byd arnom ni,” meddai Andrew Mitchell wrth ysgrifennu yn y Guardian am Uwchgynhadledd G7, sy’n cael ei chynnal yng Nghernyw ddydd Gwener (Mehefin 11).

“Ond ar y funud, mae Prydain i’w gweld yn ddiffygiol, oherwydd rydyn ni wedi cael gwared ar ran sylfaenol o’n harweiniad byd-eang.

“Prydain yw’r unig genedl G7 sy’n gwneud toriadau i gymorth rhyngwladol eleni.

“Mae’r toriadau’n cael effaith ddinistriol yn barod, gyda phrosiectau’n cael eu canslo, clinigau yn cau ac athrawon yn cael eu diswyddo.

“Mewn sefyllfa argyfyngus, bydd y toriadau hyn yn arwain at gannoedd ar filoedd o farwolaethau y gellir eu hatal.”

Dywedodd Andrew Mitchell, sy’n aelod o’r blaid Geidwadol, fod cyfrannu’n deg tuag at gymorth rhyngwladol “yn hanfodol er mwyn cael Uwchgynhadledd G7 lwyddiannus”.

Daw’r feirniadaeth wedi i 1,700 o elusennau, academyddion ac arweinwyr busnesau ysgrifennu at Boris Johnson er mwyn ei rybuddio y bydd “hygrededd a llais y Deyrnas Unedig ar blatfform rhyngwladol yn cael ei danseilio”.

Dywed y llythyr, sydd wedi’i lofnodi gan sefydliadau fel Oxfam ac Achub y Plant, fod y toriadau’n “ergyd ddwbl” i gymunedau tlotaf y byd ynghanol pandemig.

Y diwygiad

Pe bai tua 40 o aelodau seneddol yn pleidleisio o blaid y diwygiad yn Nhŷ’r Cyffredin, gallai hynny fod yn ddigon i’w basio.

Byddai’r diwygiad yn gorfodi’r Llywodraeth i dalu’r gwahaniaeth mewn cymorth rhyngwladol wrth i’r ganran ddisgyn i lai na 0.7% o’r incwm cenedlaethol.

Mae Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, wedi amddiffyn y toriadau, ac wrth siarad gyda’r BBC, mae’n dweud ei bod yn “rhesymol” yn sgil her yr “economaidd anferth”, a’r her iechyd sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig.

“Rydyn ni wedi cael ymyrraeth economaidd sydd ond yn digwydd unwaith bob 300 mlynedd,” meddai.

“Bydd y cynllun yma’n un dros dro, ond mae gennym ni gostau enfawr yma mae’n rhaid mynd i’r afael â nhw fel ein bod ni’n parhau i allu buddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd, er enghraifft, ac ehangu’r buddsoddiad hwnnw… rhan o fy nadl hefyd yw ein bod ni’n gwneud llawer o bethau eraill o amgylch y byd.”