Mae dros 100 o elusennau Prydain wedi beirniadu penderfyniad y llywodraeth i dorri arian cymorth i Yemen.
Mae’r llywodraeth wedi addo £87 miliwn eleni, o gymharu ag addewid o £160 miliwn y llynedd a £200 miliwn yn 2019.
Mewn llythyr at y Prif Weinidog Boris Johnson, mae’r elusennau’n rhybuddio y bydd troi cefn ar bobl anghennus Yemen yn distrywio enw da Prydain “fel gwlad sy’n helpu’r rhai mewn mwyaf o angen”.
Mae’r elusennau sydd wedi llofnodi’r llythyr yn cynnwys Oxfam, Cymorth Cristnogol, Achub y Plant a Care International.
Daw’r toriadau wrth i Lywodraeth Prydain ostwng eu hymrwymiad i wario 0.7% o incwm cenedlaethol ar gymorth i wledydd tramor i 0.5%. Mae’r elusennau’n pwyso ar y Llywodraeth i adfer yr ymrwymiad i 0.7%.
Yn y cyfamser, fe ddaeth i’r amlwg hefyd mewn adroddiad cyfrinachol gan y Swyddfa Dramor fod y Llywodraeth yn ystyried toriadau llym hefyd mewn cymorth i wledydd eraill sydd wedi cael eu hanrheithio gan ryfel.
Yn ôl yr adroddiad, sy’n cael ei gyhoeddi ar y wefan ymgyrchu, openDemocracy, mae’r Llywodraeth yn bwriadu gwneud toriadau o 67% mewn cymorth i Syria, 63% mewn cymorth i Libya, 60% mewn cymorth i Somalia a 59% mewn cymorth i Dde Swdan.
Mae’r adroddiad wedi cael ei feirniadu’n llym gan y blaid Lafur, sy’n rhybuddio y bydd pobl yn marw o ganlyniad.