Mae bron i filiwn o bobl wedi cael eu brechu yng Nghymru bellach, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Daw hyn i’r amlwg wrth i gyfraddau’r achosion coronafeirws ostwng i lai na 50 i bob 100,000 o’r boblogaeth am y tro cyntaf ers mis Medi y llynedd.

Yn ogystal â’r 983,419 o bobl sydd wedi derbyn eu pigiad cyntaf, mae 168,163 wedi derbyn eu ail bigiad hefyd.

Yn y cyfamser, dywed arbenigwr mewn clefydau heintus y bydd angen parhau i ddatblygu’r brechlynau dros y flwyddyn nesaf fel y gallant amddiffyn yn erbyn amrywiolion newydd posibl o’r feirws.

Dywed yr Athro Ravindra Gupta, aelod o’r grwp NERVTAG sy’n cynghori Llywodraeth Prydain ar fygythiadau feirysau newydd, ei bod yn “anochel” y bydd nifer yr amrywiolion – fel amrywiolyn Manaus, Brasil, sy’n peri pryder ar hyn o bryd – yn cynyddu.

“Mae’n annebygol y byddai amrywiolyn Manaus yn ennill goruchafiaeth ym Mhrydain ar hyn o bryd oherwydd bod gan y feirws sydd yma eisoes fantais drosto o ran trosglwyddo,” meddai.

“Wrth i lawer ohonom gael ein brechu, fodd bynnag, fe fydd llwybrau esblygu’r feirws yn troi at osgoi imiwnedd yn hytrach na dibynnu’n gyfan gwbl ar drosglwyddo cyflym.

“Felly, mae angen inni ailddylunio’n brechlynnau dros y flwyddyn nesaf gyda rhai o’r amrywiolion allweddol yn bresennol yn y brechlynau fel y gallwn rwystro trosglwyddo’r amrywiolion hyn.

“Ar y llaw arall, gallwn gymryd cysur o’r ffaith fod holl amrywiolion y feirws yn gwneud pethau tebyg iawn, felly daw nodweddion cyffredin iawn i’r amlwg, a fydd yn ein helpu i gynllunio’r genhedlaeth newydd o frechlynnau.”

Cyfraddau’r coronafeirws yn gostwng i lai na 50 i bob 100,000 o’r boblogaeth

“Wrth i fwy o bobol gael eu brechu yng Nghymru, efallai ein bod yn gweld gostyngiad cyflymach na’r disgwyl”