Mae Heddlu Dyfed-Powys yn arwain ymchwiliad i farwolaeth rhingyll yn y Gwarchodlu Cymreig a fu farw ar ôl cael ei anafu mewn ymarfer tanio ar safle milwrol yr wythnos yma.

Cafodd yr heddlu eu galw i faes tanio Castell Martin yn Sir Benfro tua 10.45 fore Iau, Mawrth 4.

“Mae’n drist gennym ddweud bod dyn wedi ei gadarnhau’n farw yn fuan wedyn,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu. “Rydym yn cydymdeimlo â’i deulu, sydd wedi cael gwybod am y digwyddiad ac sy’n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Mae’r milwr wedi cael ei enwi gan ei dad fel y Rhingyll Gavin Hillier.

Cyflwynwyd Medal ‘Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da’ iddo yn 2019 gan y Tywysog Charles, sy’n gyrnol i’r Gwarchodlu Cymreig.

Mewn neges ar Facebook dywed ei dad ei fod wedi torri ei galon yn llwyr.

Dyw’r Fyddin ddim yn fodlon cyhoeddi manylion pellach am y digwyddiad ar hyn o bryd.

“Rydym yn cydymdeimlo â’i deulu a’i ffriniau ar yr adeg trist ymt,” meddai llefarydd ar ran y Fyddin.

“Mae ymchwiliad yn digwydd i amgylchiadau eu farwolaeth a byddai unrhyw sylwadau pellach yn anaddas ar hyn o bryd.”

Yn ôl adroddiad ym mhapur newydd The Sun, roedd y rhingyll wedi gwasanaethu yn Irac ac Afghanistan ac roedd yn ymarfer ar gyfer cael ei anfon eto i Irac yn yr haf.

Mae milwyr eraill wedi cael eu lladd ar feysydd tanio Castell Martin dros y 10 mlynedd diwethaf.

Yn 2017, bu farw’r ddau gorporal Matthew Hatfield a Darren Neilson ar ôl i’w tanc ffrwydro mewn ymarferiad yno. Ychydig flynyddoedd ynghynt, bu farw milwr arall, Mike Maguire, yno yn 2012 ar ôl cael ei saethu yn ei ben, digwyddiad a arweiniodd at ddyfarniad o ladd anghyfreithlon mewn cwest y flwyddyn ganlynol.