Mae’r Deyrnas Unedig yn methu â sicrhau ei bod hi’n gallu ymdopi â risgiau’r cynnydd mewn tymheredd a thywydd garw, meddai ymgynghorwyr.

Rhaid i lywodraethau weithredu ar frys i ymateb i’r bygythiad o gartrefi’n gorgynhesu, toriadau pŵer, a’r peryg i fyd natur, cnydau a’r cyflenwad bwyd, meddai’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, sy’n cynghori Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig.

Ni fydd ymdrechion i gyrraedd y targed carbon sero-net erbyn 2050 yn llwyddo heb fesurau i helpu natur i addasu i hinsawdd newidiol, meddai adroddiad newydd gan y pwyllgor.

Yr hiraf y mae hi’n ei chymryd i lywodraethau ymateb i’r argyfwng, yr uchaf fydd y gost, meddai.

Rhaid i arweinyddiaeth gan yr holl lywodraethau gynyddu’r ymdrech i addasu ar gyfer newid yn yr hinsawdd er mwyn sicrhau fod eu hamcanion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol dal o fewn cyrraedd.

Risgiau i’w blaenoriaethu

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn tynnu sylw at wyth prif risg sydd angen eu blaenoriaethu, a mynd i’r afael â nhw ar unwaith – o fewn dwy flynedd fan bellaf.

Ymysg y rhain mae’r risg i hyfywedd ac amrywiaeth cynefinoedd a rhywogaethau daearol a dŵr croyw, peryg i safon y pridd yn sgil llifogydd a sychder, a pheryg i gnydau, anifeiliaid fferm, a choed masnachol.

Rhaid mynd i’r afael â’r risg i’r cyflenwad bwyd, nwyddau a gwasanaethau hanfodol ar unwaith hefyd, meddai.

Mae peryglon i iechyd, lleisiant, a chynhyrchiant pobol hefyd yn sgil y cynnydd mewn tymheredd mewn adeiladau.

Wrth i’r Deyrnas Unedig ddod yn fwyfwy dibynnol ar drydan, er enghraifft er mwyn pweru ceir, bydd y risg o doriadau pŵer yn amharu ar y bobol a’r economi.

Cynllun yn “hanfodol”

“Rhaid peidio â bychanu difrifoldeb y risgiau rydyn ni’n eu hwynebu,” meddai’r Farwnes Brown, Cadeirydd y Pwyllgor Addasu.

“Ni fydd y risgiau hyn yn diflannu wrth i’r byd symud i sero-net; mae nifer ohonyn nhw wedi’u cloi yn barod.

“Drwy ddeall yn well, a pharatoi ar gyfer y newidiadau sydd i ddod, gall y Deyrnas Unedig ffynnu, gwarchod ei phobol, ei heconomi, a’i hamgylchedd naturiol.

“Mae cynllun gweithredu manwl, effeithiol sy’n paratoi’r Deyrnas Unedig ar gyfer newid hinsawdd yn hanfodol nawr, a’i angen ar frys.”

“Llawer o bryder”

“Rydyn ni wir eisiau rhoi’r neges drosodd ynghylch hyd a lled y risgiau hinsawdd rydyn ni’n eu hwynebu nawr yn y Deyrnas Unedig, a pha mor wirioneddol wael yw’r cynlluniau rydyn ni’n eu gweld ar gyfer nifer ohonyn nhw,” meddai Chris Stark, Prif Weithredwr y Pwyllgor Newid Hinsawdd.

“Dyw ein paratoadau ddim yn cyd-fynd â chyflymder hyd a lled y risgiau rydyn ni’n eu hwynebu yn y wlad hon.

“Mae hynny’n gasgliad sy’n achosi llawer o bryder, yn enwedig gan ein bod ni wedi bod yn codi’r pryderon hyn yn gyson gyda Llywodraeth [y Deyrnas Unedig] ers peth amser nawr, maen nhw wedi’i chael hi’n llawer rhy hawdd diystyru’r pryderon a hoffwn weld hynny’n newid.”

Ymateb y llywodraethau

“Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu’r adroddiadau manwl a helaeth hyn gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, gyda’r amgylchedd a newid yn yr hinsawdd wrth wraidd ein penderfyniadau,” meddai Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, Julie James.

“Er mwyn helpu i gyfyngu ar newid pellach yn yr hinsawdd, mae angen i ni wneud mwy i fynd i’r afael ag allyriadau yn ystod y 10 mlynedd nesaf nag yr ydym wedi’i wneud yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.

“Mae ein cynllun addasu presennol, Cymru sy’n Effro i’r Hinsawdd, eisoes yn ei ail flwyddyn a bydd y cyngor newydd hwn gan y Pwyllgor Addasu yn ein galluogi i adolygu a diweddaru ein gweithredoedd yng ngoleuni’r wyddoniaeth ddiweddaraf.”

“Rydyn ni’n croesawu’r adroddiad hwn a byddwn yn ystyried ei argymhellion yn fanwl wrth i ni barhau i arddangos arweinyddiaeth byd eang ar newid hinsawdd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig.