Mae awyrennau Israel wedi cynnal nifer o ymosodiadau o’r awyr ar safleoedd milwrol yn Llain Gaza yn oriau mân fore Mercher (Mehefin 16).

Dyma’r tro cyntaf i gyrchoedd o’r fath gael eu cynnal ers i’r cadoediad ddod a diwedd i’r rhyfel gyda Hamas fis diwethaf.

Roedd yr ymosodiadau o’r awyr wedi targedu safleoedd sy’n cael eu defnyddio gan  filwriaethwyr Hamas i drefnu ymosodiadau, yn ôl byddin Israel. Nid oes unrhyw adroddiadau bod pobl wedi’u hanafu yn yr ymosodiadau hyd yn hyn.

Ddydd Mawrth, roedd cannoedd o genedlaetholwyr brwd Israel wedi gorymdeithio yn nwyrain Jerwsalem i ddangos eu grym, a oedd yn bygwth ailgynnau’r trais.

Roedd yr orymdaith wedi rhoi pwysau ar lywodraeth glymblaid newydd Israel yn ogystal â’r cadoediad bregus a ddaeth a’r rhyfel 11 diwrnod rhwng Israel a Hamas i ben fis diwethaf.

Fe ymatebodd Palestiniaid yn Gaza drwy danio balwnau ffrwydrol oedd wedi achosi o leiaf 10 tân yn ne Israel.

Wrth gondemnio’r orymdaith ar Twitter, dywedodd y Gweinidog Tramor Yair Lapid fod y sloganau hiliol gafodd eu gweiddi yn ystod y digwyddiad yn “warth i bobl Israel”, gan ychwanegu: “Mae’r ffaith bod yna radicaliaid sy’n meddwl bod baner Israel yn cynrychioli casineb a hiliaeth, yn ffiaidd ac yn anfaddeuol.”