Mae ysgol gynradd sy’n brwydro i oroesi wedi lansio ymgyrch i ddiogelu ei dyfodol drwy geisio denu disgyblion o gymunedau cyfagos.

Does dim bygythiad i gau Ysgol Llannefydd yng Nghonwy ar hyn o bryd, ond mae pryder cynyddol ynghylch y gostyngiad yn nifer y disgyblion yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Unarddeg o blant sydd ar y gofrestr ar hyn o bryd, a byddai proses ymgynghori awtomatig dros ei dyfodol yn dechrau petai’n gostwng o dan ddeg.

Gyda nifer fechan o blant lleol yn cyrraedd oed ysgol yn y blynyddoedd nesaf, mae llywodraethwyr a rhieni wedi sefydlu ymgyrch i recriwtio plant i’r ysgol Gymraeg o gymunedau cyfagos.

Maen nhw’n targedu ardaloedd Llanelwy a Bodelwyddan yn benodol gan nad oes ysgolion cynradd sy’n darparu addysg gyda’r Gymraeg fel iaith gyntaf yno.

Yn ôl rhieni, un o fanteision pennaf Ysgol Llannefydd yw’r lefel uchel o sylw un i un sy’n cael ei roi i’r plant, gyda’r gymhareb disgybl-athro yn debyg i’r hyn a geir mewn ysgolion preifat.

Addysg ddwyieithog “amhrisiadwy”

“Rydym yn gwerthfawrogi’r ysgol oherwydd bod yno wybodaeth drylwyr am bob plentyn ac maen nhw’n gwerthfawrogi pob plentyn, sydd wedi bod yn arbennig o bwysig yn ystod y pandemig oherwydd bod Abyan yn teimlo’n ddiogel pan fydd yn mynd i’r ysgol,” meddai Katie Farah, sy’n anfon ei mab pedair oed i Ysgol Llannefydd.

“Dydyn ni ddim yn siarad Cymraeg gartref felly un o’r manteision yw ei fod yn dysgu Cymraeg ac yn cael addysg ddwyieithog. Mae hynny’n amhrisiadwy.

“Mae’r disgyblion yn derbyn addysg lawn a chyflawn, ac mae’r amgylchedd gyda’r gorau posib.

“Byddwn yn annog unrhyw rieni i ddod i gael golwg ar Ysgol Llannefydd.

“Rwy’n credu pe bydden nhw’n cael cyfle i gysylltu gyda’r staff yma, naill ai ar-lein neu’n gorfforol, bydden nhw’n gweld y gofal addfwyn sydd mor amlwg yn syth wrth i chi gerdded i mewn i’r ysgol.”

“Teulu estynedig”

Cafodd Gari Evans ei benodi’n bennaeth yr ysgol yn 2015, ac mae’n disgrifio’r ysgol fel “teulu estynedig”.

“Mae safon yr addysgu o’r radd flaenaf ac mae’r profiadau amrywiol a roddir i’r plant yn arwain at lefelau cyrhaeddiad addysgol uchel,” meddai Gari Evans.

“Mae pawb yn cydweithredu’n rhyfeddol o dda, ac nid oes gennym unrhyw broblemau ymddygiad.

“Un o fanteision yr addysg a ddarperir gan ysgol bentref fach fel Ysgol Llannefydd yw ei bod bron fel addysg breifat. Mae’r gymhareb staff-disgybl yn wych ond yn amlwg nid oes unrhyw ffioedd.

“Yn ogystal, mae’r cyfleusterau’n rhagorol yma ac mae’r dechnoleg gwybodaeth ar sail un i un – mae gan bawb offer ar gyfer dysgu ar-lein.

“Ar ben hynny, mae’r ysgol wedi ei lleoli mewn ardal hyfryd ac mae digon o le ar gyfer gweithgareddau awyr agored.

“Yn anffodus, nid oes unrhyw dai newydd yn cael eu hadeiladu yn yr ardal hon felly mae angen i ni ddenu mwy o ddisgyblion o’r tu allan i’r pentref ei hun.

“Nid ydym wedi cyrraedd y pwynt lle mae’r sir neu Lywodraeth Cymru yn edrych i gau’r ysgol ond mae angen i ni sicrhau ein bod yn paratoi ar gyfer y dyfodol ac yn ceisio denu mwy o ddisgyblion o’r tu allan i’r ardal hefyd.

“Nid yw Bodelwyddan a Llanelwy yn rhy bell, tua phedair milltir i ffwrdd felly mae ein hysgol yn hygyrch iawn.

“Credwn fod Ysgol Llannefydd yn cynnig rhywbeth unigryw ac arbennig a byddwn yn fwy na pharod i siarad ag unrhyw ddarpar rieni a sgwrsio gyda nhw am bopeth sydd gennym i’w gynnig.”

Awyddus i aros ar agor

“”Mae’r Llywodraethwyr ac Awdurdod Addysg Leol Conwy yn awyddus i’r ysgol aros yn agored ac i barhau’n hyfyw ar gyfer cenedlaethau o ddysgwyr y dyfodol,” meddai Glesni Owen, un o lywodraethwyr yr ysgol.

“Fodd bynnag, os gwelwn unrhyw ostyngiad pellach yn y niferoedd cyfredol, bydd yr ysgol mewn sefyllfa hynod ansicr.

“Mae angen i ni fel y gymuned ehangach weithredu rŵan nid yn unig i sicrhau dyfodol mwy diogel i’n hysgol, ond hefyd yr holl weithgareddau cymunedol eraill y mae’r ysgol yn chwarae rhan sylfaenol ynddynt ac i sicrhau bod yna ddyfodol iddyn nhw hefyd.”