Mae Llywodraeth Cymru a’r cyflwynydd radio Huw Stephens wedi lansio ‘Gŵyl Dy Ddyfodol’, digwyddiad sy’n cael ei gynnal rhwng Mehefin 21 a 25.

Bwriad yr ŵyl yw darparu llwyfan ar-lein o adnoddau i helpu pobol ifanc i ddeall eu hopsiynau addysg.

Gallai’r rhain gynnwys aros yn yr ysgol, cychwyn busnes a chyfleoedd hyfforddi fel prentisiaethau a hyfforddeiaethau.

Mae’r ŵyl yn cael ei threfnu gan Lywodraeth Cymru a’i chynnal gan Gyrfa Cymru.

Bydd Gŵyl y Gelli hefyd yn darparu amrywiaeth o gynnwys, megis ffilmiau byrion ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch gan awduron, gwyddonwyr a meddylwyr sy’n ymddangos yng Ngŵyl y Gelli.

Mae ysgolion, colegau, cyflogwyr a darparwyr addysg yn y gwaith yn cefnogi’r ŵyl drwy ddarparu adnoddau a gwybodaeth am bynciau gan gynnwys dewis eich pynciau TGAU, cychwyn eich busnes eich hunan, gwneud cais i’r brifysgol a magu hyder.

Bydd Gŵyl Dy Ddyfodol yn cael ei chynnal ar-lein ar draws chwe llwyfan, yn ogystal â llwyfan pwrpasol i gynnig cyngor ar sut i ddelio â straen, sut i ofalu am eich iechyd meddwl a magu hyder.

“Lein-yp gwych”

“Fel unrhyw ŵyl, mae gyda ni lein-yp gwych ar gyfer pobol ifanc Cymru,” meddai Huw Stephens.

“Er ein bod ni wedi bod yn byw mewn cyfnod heriol iawn, does dim angen i’w dyfodol nhw ddioddef.

“Mae dal opsiynau allan yna, ac mae Gŵyl Dy Ddyfodol yn gyfle iddyn nhw archwilio’r opsiynau yna’n fwy manwl.”

‘Cynllunio’r cam nesaf’

“Mae gwneud penderfyniadau am eich cyfleoedd ôl-16 yn gam mawr ar ddechrau eich gyrfa, felly mae’n hanfodol bod gan bobol ifanc y wybodaeth iawn er mwyn eu helpu ymlaen i’r cam nesaf, boed hynny’n addysg, hyfforddiant neu waith,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru.

“Os ydych chi’n gwneud penderfyniadau am eich cyfleoedd ôl-16 eleni, mae Gŵyl Dy Ddyfodol yn gyfle i gael blas ar y cyrsiau a’r cyfleoedd dysgu sydd ar gael i chi.

“Bydd yr ŵyl yn eich helpu i gynllunio ar gyfer eich cam nesaf, pa bynnag lwybr y byddwch chi’n dewis ei ddilyn.”