Mae Pedro Sanchez, prif weinidog Sbaen, yn dweud y bydd Cabinet y Llywodraeth y rhoi pardwn i naw o ymgyrchwyr annibyniaeth Catalwnia.

Cafodd y naw eu carcharu am eu rhan yn y refferendwm yn 2017 sy’n cael ei ystyried yn ‘anghyfansoddiadol’.

Daeth y cyhoeddiad wrth i’r prif weinidog ymweld â Barcelona i amlinellu’r ’map ffordd’ ar gyfer y dyfodol.

Mae disgwyl i’r Cabinet gymeradwyo’r pardwn yfory (dydd Mawrth, Mehefin 22).

Cefndir

Cafwyd 12 o arweinwyr yn euog o annog terfysg a throseddau eraill, a chafodd naw ohonyn nhw ddedfryd hir o garchar ar ôl iddyn nhw gynnal refferendwm annibyniaeth yn groes i ddymuniadau Llywodraeth Sbaen.

Fe gyhoeddon nhw annibyniaeth rai diwrnodau wedyn ar sail y canlyniadau.

Wnaeth y mwyafrif sydd o blaid aros yn rhan o Sbaen ddim pleidleisio, ac roedd yr heddlu’n llawdrwm wrth ymateb i’r digwyddiad.

Doedd dim cefnogwyr annibyniaeth blaenllaw yn Barcelona i glywed anerchiad Pedro Sanchez, ond roedd protest y tu fewn i adeiladu tŷ opera.

“Rydyn ni am ei wneud e er lles cytundeb,” meddai am roi pardwn i’r carcharorion.

“Rydyn ni am ei wneud e’n llawn.”

Ond fe wnaeth protestiwr oedd yn cludo baner Catalwnia darfu ar yr araith, gan weiddi i alw am amnest yn llawn i’r ymgyrchwyr tros annibyniaeth.

Pwrpas rhoi pardwn yw osgoi cosbi’r rhai sy’n cael eu canfod yn euog, ond mae amnest yn cydnabod nad oedd unrhyw fai yn lle cyntaf.

Fe fu miloedd o bobol sy’n gwrthwynebu rhoi pardwn yn galw am ymddiswyddiad Pedro Sanchez ddechrau’r mis ym Madrid, ac fe gawson nhw gefnogaeth tair plaid wleidyddol yn Sbaen.