Bydd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad newydd, yn rhoi araith ar ran Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd fis nesaf.

Yn ei araith, bydd yn amlinellu cynlluniau i gynnal sgwrs genedlaethol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Yng nghyd-destun cyhoeddiad Llywodraeth Cymru, Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y Deyrnas Unedig, a’r galw am ddatganoli ar sail ffederal radical, bydd yn nodi sut mae’n bwriadu ymgysylltu â phobol Cymru wrth lunio “gweledigaeth newydd i Gymru gref mewn Deyrnas Gyfunol lwyddiannus”.

Bydd modd gwrando ar yr araith ar-lein am 10yh ar Orffennaf 5.