Mae Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yn atgoffa pawb i chwarae eu rhan i ddiogelu Cymru dros yr haf.

Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 579 o achosion o’r amrywiolyn Delta yng Nghymru, ac mae gweinidogion yn awyddus i gyflymu’r rhaglen frechu.

Wrth siarad yn ystod cynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Llun, Mehefin 21), dywedodd Eluned Morgan na fydd pobol yn eu pedwardegau yn gorfod aros mwy nag wyth wythnos am yr ail frechlyn, a’u bod nhw’n cyflwyno hanner miliwn yn fwy o frechlynnau i’r system rhwng nawr a chanol Gorffennaf.

Ychwanegodd Dr Chris Jones “nad oes rheswm” i Lywodraeth Cymru ystyried gwneud brechlynnau’n ofynnol i’r un grŵp, a hynny yn sgil llwyddiant y rhaglen hyd yn hyn.

Cyflymu’r rhaglen frechu

“Rhwng nawr a chanol Gorffennaf, fe fyddwn yn cyflwyno hanner miliwn yn fwy o frechlynnau i’r system, yn canolbwyntio ar ail ddos a sicrhau fod pobol wedi cael eu brechu’n llawn,” meddai Eluned Morgan.

“Bydd sylw penodol ar roi ail ddos i bawb yn y grwpiau blaenoriaeth un i naw yn ystod yr wythnosau nesaf – mae hynny’n golygu pawb dros 50, gweithwyr gofal iechyd, gweithwyr gofal cymdeithasol a grwpiau bregus eraill gan gynnwys preswylwyr cartrefi gofal.

“Ac os yw’r cyflenwadau yn caniatáu, fe fyddwn ni’n ceisio sicrhau bod pobol yn eu 40au yn cael eu brechu’n gynt fel nad ydyn nhw’n gorfod aros yn hwy nag wyth wythnos rhwng y dos cyntaf a’r ail.

“Rydyn ni’n mynd mor sydyn ag y gallwn ni.”

Brechlynnau gorfodol?

Ar hyn o bryd does yna ddim rheswm i drafod gwneud brechlynnau’n orfodol i’r un grŵp, meddai Dr Chris Jones.

Gan fod y rhaglen frechu wedi bod yn llwyddiant hyd yn hyn, a niferoedd uchel yn derbyn y brechlyn, dydi Llywodraeth Cymru ddim yn teimlo y bydd rhaid gorfodi neb i’w dderbyn.

Yng Nghymru, mae dros 90% o weithwyr ym maes gofal wedi derbyn dos cyntaf o’r brechlyn, ac yn ôl Dr Chris Jones, dydyn nhw “ddim mewn sefyllfa” i’w orfodi ar neb.

“A dydyn ni ddim yn awyddus i wneud hynny, byddai’n well gennym ni pe bai pobol yn ei gymryd yn wirfoddol,” meddai.

Ychwanegodd fod yr holl fyrddau iechyd yng Nghymru yn paratoi ar gyfer derbyn cyngor y Cydbwyllgor Imiwnedd a Brechu ynghylch cynnig trydydd brechlyn yn yr hydref, a brechu plant dan 18 oed.

Peidio “llaesu dwylo”

Gan ailadrodd yr hyn ddywedodd Mark Drakeford ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Dr Chris Jones gadarnhau ein bod ni yn y cyfnod cyn brig y drydedd don.

Dywedodd fod Cymru tua phythefnos i dair wythnos ar ôl yr Alban a Lloegr, a bod ansicrwydd ynghylch effeithlonrwydd brechlynnau yn erbyn Delta a pha mor drosglwyddadwy yw’r amrywiolyn yn golygu bod “amryw o sefyllfaoedd posib”.

Dydy Llywodraeth Cymru ddim yn ystyried cau’r ffiniau i bobol o lefydd yn Lloegr lle mae cyfraddau’r feirws yn uwch, meddai Eluned Morgan.

Dywed eu bod nhw’n awyddus i groesawu pobol i Gymru, er eu bod nhw’n annog ymwelwyr i gael prawf cyn teithio ac i gadw at reolau’r wlad.

“Wrth inni symud i fisoedd yr haf, nid nawr yw’r amser i laesu dwylo,” meddai.

“Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu, ac mae trosglwyddiad yr amrywiolyn Delta yn ein hatgoffa pa mor gyflym y gall ledaenu.

“Mae ein brwydr yn erbyn y feirws yn dibynnu ar y camau rydyn ni i gyd yn eu cymryd gyda’n gilydd ac mae angen inni ddal ati i wneud yr holl bethau sydd wedi helpu i’n cadw ni a’n teuluoedd yn ddiogel ac i ddiogelu Cymru.

“Rhaid i bob un ohonom wneud yn siŵr ein bod yn parhau i ddilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol, golchi ein dwylo, gwisgo gorchudd wyneb, a chyfyngu ein cyswllt â phobol dan do, er mwyn diogelu Cymru a chadw’r lefelau trosglwyddo mor isel â phosibl.

“Rhaid inni hefyd geisio cwrdd â phobol yn yr awyr agored lle bo modd, a sicrhau bod mannau dan do yn cael eu hawyru’n dda.

“Mae cynnal profion yn arbennig o bwysig wrth i amrywiolion newydd ddod i’r amlwg, er mwyn helpu i ganfod achosion positif a rheoli brigiadau o achosion yn fwy effeithiol.

“Os byddwn i gyd yn ysgwyddo cyfrifoldeb ac yn cadw’r canllawiau mewn cof, bydd gennym y cyfle gorau i fynd yn ôl i wneud y pethau rydyn ni’n gweld eu heisiau fwyaf.”

Yr Ewros

Yn y cyfamser, mae Eluned Morgan yn annog pobol i aros yng Nghymru ar gyfer gêm nesaf tîm pêl-droed Cymru yn yr Ewros, yn hytrach na theithio i Amsterdam.

Mae’r heddlu yno wedi dweud na fyddan nhw’n gadael cefnogwyr i mewn i’r wlad, meddai.

Pe bai awdurdodau lleol yn gofyn i Lywodraeth Cymru am ganllawiau ar agor parthau i gefnogwyr gael gwylio’r gemau tu allan, bydden nhw’n ystyried hynny, meddai wedyn.

Dywed y byddai’n well gan Lywodraeth Cymru weld pobol yn gwylio’r gêm tu allan, dan reolaeth ac yn ddiogel, na thu mewn.

Cefnogwyr Cymru yn Baku

“Dydi pêl-droed yn ddim byd heb gefnogwyr,” medd golwr Cymru

Danny Ward yn siarad yn dilyn y cyhoeddiad na fydd cefnogwyr Cymru’n cael teithio i’r gêm 16 olaf yn Amsterdam

‘Angen i 80% o boblogaeth Cymru gael imiwnedd cyn bod amrywiolyn Delta’n stopio lledaenu’

Angen cyfuniad o frechu a chyfyngiadau ar gyfer y “dyfodol rhagweladwy”, meddai Mark Drakeford