“Dydi pêl-droed yn ddim byd heb gefnogwyr,” yn ôl golwr Cymru, Danny Ward, sydd wedi bod yn siarad ar ôl i’r tîm pêl-droed cenedlaethol gyrraedd rownd 16 olaf Ewro 2020.

Daeth cadarnhad gan Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Llun (21 Mehefin) na fydd modd i gefnogwyr deithio i Amsterdam, gan fod heddlu’r Iseldiroedd yn dweud na fydd modd iddyn nhw gael mynediad i’r wlad yn sgil sefyllfa Covid-19 yng ngwledydd Prydain.

Yn ystod y gynhadledd ddydd Llun dywedodd Eluned Morgan: “Ry’n wedi derbyn canllawiau gan yr heddlu yn Amsterdam sy’n dweud wrthym na fyddan nhw’n caniatáu unrhyw gefnogwyr i mewn i’r wlad.

“Ac felly mae hynny’n golygu y byddwn ni, wrth gwrs, yn eich hannog i aros yma a gwylio’r gêm yn ddiogel.”

Mae’r Iseldiroedd ar restr oren Llywodraeth Prydain, sy’n golygu eu bod yn cynghori yn erbyn teithio, tra nad yw’r Deyrnas Unedig ar restr ddiogel yr Iseldiroedd.

Fe fydd Cymru’n wynebu Denmarc yn Amsterdam ddydd Sadwrn (Mehefin 26).

Yn ôl Eluned Morgan, mae’n bosib y bydd rhai awdurdodau lleol yn rhoi’r hawl i gefnogwyr sefydlu ffanbarthau ac os felly, bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi canllawiau ar gyfer gwneud hynny mewn ffordd ddiogel.

“Os gallwn ni ei wneud e mewn lleoliad dan reolaeth, yna byddai hynny’n well o lawer na phobol yn mynd i mewn i gartrefi ei gilydd,” meddai.

Barn y golwr

“Fel pêl-droedwyr, does dim diben i ni chwarae o flaen stadiymau gwag,” meddai Danny Ward am y profiad o chwarae mewn twrnament sydd ychydig yn wahanol i’r arfer yn sgil y cyfyngiadau Covid-19.

“Dydi pêl-droed yn ddim byd heb gefnogwyr.

“Dwi’n meddwl bod Pep Guardiola [rheolwr Manchester City] wedi dweud ryw flwyddyn yn ôl ei fod fel actor yn mynd ar lwyfan a does dim cynulleidfa.

“Dyna pwy rydyn ni’n chwarae ar eu cyfer nhw, dyna pam rydyn ni’n ei wneud e, boed ar lefel clwb neu ryngwladol.

“Pan oedden nhw yno, fe gawson ni boced o gefnogwyr Cymru y tu ôl i’r gôl yn Baku, oedd yn arbennig iawn.

“Yr un fath ddoe, fe wnaethon nhw ddangos eu hunain i ni ac mae hynny bron iawn yn dod â siege mentality allan hefyd, pan ydych chi’n mynd i Baku ac mae 30,000 o gefnogwyr Twrci a dim ond nifer fach o Gymry yno.

“Mae’n helpu i greu undod.”

“Cyflawniad mwy nag y mae pobl yn ei sylweddoli”

“Rwy’n credu ei fod yn gyflawniad mwy nag y mae pobl yn ei sylweddoli,” meddai Ward am berfformiad Cymru hyd yma.

“Roedden ni’n cael ein diystyrru ychydig bach cyn y twrnament, ond roedden ni eisiau dringo’r mynydd eto. Rydym wedi llwyddo i wneud hynny.

“Rydyn ni wedi gweld eisiau’r rhan fwyaf o’n cefnogwyr, ond rydyn ni’n gwybod eu bod nhw gyda ni nôl gartref a gobeithio ein bod ni’n eu gwneud nhw’n falch.”

Connor Roberts eisiau gweld mwy o gefnogwyr yn cael y cyfle i wylio Cymru

“Rydym wedi bod hanner ffordd o amgylch y byd a dim ond ychydig gannoedd o gefnogwyr oedd gennym, oherwydd ei bod hi mor anodd iddyn nhw gyrraedd”

Annog pawb i ddiogelu Cymru dros yr haf

A Llywodraeth Cymru’n cyflwyno hanner miliwn o frechlynnau ychwanegol i’r system rhwng nawr a chanol Gorffennaf