Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi denu amddiffynnwr Arsenal, Mark McGuinness.

Mae’r gŵr 20 oed o Ogledd Iwerddon wedi llofnodi cytundeb hyd at haf 2024.

Treuliodd dymor 2020/21 ar fenthyg gydag Ipswich Town yn yr Adran Gyntaf (League One), gan chwarae mewn 25 o gemau cystadleuol a sgorio unwaith.

Fe yw’r ail chwaraewr mae Mick McCarthy wedi ei ddenu yr haf yma.

Mark McGuinness yn llofnodi ei gytundeb â Chaerdydd

“Cyn gynted ag yr oeddwn yn gwybod fod gan glwb fel Caerdydd ddiddordeb, roeddwn i wedi cyffroi ac yn gwybod na allwn golli’r cyfle hwn,” meddai Mark McGuinness wrth Cardiff City TV.

“Mae’n braf cael trefn ar bopeth yn gynnar a gobeithio y galla’ i gwrdd â’r bechgyn a bwrw ymlaen.

“Fy ngwaith i yw atal y bêl rhag mynd i gefn y rhwyd. Rwy’ wrth fy modd yn penio’r bêl ac rwy’ wrth fy modd yn amddiffyn.

“Mae’n gyfle gwych i fi ddysgu a gwella yn ystod y blynyddoedd nesaf gyda’r clwb.”