Bydd Cymru’n wynebu Denmarc yn rownd yr 16 olaf ddydd Sadwrn (26 Mehefin), ar ôl i Ddenmarc orffen yn ail yn Grŵp B neithiwr.

Enillodd Denmarc yn erbyn Rwsia yn y gêm yn Copenhagen o 4 gôl i 1, gyda Mikkel Damsgaard yn sgorio’r gôl gyntaf i Ddenmarc yn neg munud olaf yr hanner cyntaf.

Daeth tair gôl arall Denmarc yn yr ail hanner, gan Yussuf Poulsen, Andreas Christensen, a Joakin Maehle.

Llwyddodd Artem Dzyuba i sgorio gôl o gic gosb i Rwsia hanner ffordd drwy’r ail hanner, wedi trosedd gan Jannik Vestergaard o flaen gôl Denmarc.

Golyga’r canlyniad, a chanlyniad gêm Gwlad Belg a’r Ffindir, y bydd tîm Gareth Bale yn herio Denmarc yn Amsterdam dros y penwythnos.

Gyda Denmarc, Rwsia a’r Ffindir yn gorffen ar dri phwynt yr un, mae’r gwahaniaeth goliau’n golygu fod y Ffindir yn gorffen yn drydydd yn Grŵp B, a Rwsia’n olaf.

Mae ymgyrch Denmarc yn yr Ewros, hyd yn hyn, wedi bod yn un emosiynol gan golli eu dwy gêm gyntaf ar ôl i’w chwaraewr canol cae, Christian Eriksen, gael ataliad y galon yn ystod eu gêm gyntaf yn erbyn y Ffindir.

Ni fydd cefnogwyr Cymru’n cael mynediad i’r Iseldiroedd er mwyn gwylio’r gêm, meddai Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan ddoe (21 Mehefin).

Dyw Denmarc ddim ar ‘restr saff’ yr Iseldiroedd chwaith, ac yn ôl Eluned Morgan, mae’n bosib y bydd rhai awdurdodau lleol yn rhoi’r hawl i gefnogwyr sefydlu ffanbarthau ac, os felly, bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi canllawiau ar gyfer gwneud hynny mewn ffordd ddiogel.

“Os gallwn ni ei wneud e mewn lleoliad dan reolaeth, yna byddai hynny’n well o lawer na phobol yn mynd i mewn i gartrefi ei gilydd,” meddai.

Cefnogwyr Cymru yn Baku

“Dydi pêl-droed yn ddim byd heb gefnogwyr,” medd golwr Cymru

Danny Ward yn siarad yn dilyn y cyhoeddiad na fydd cefnogwyr Cymru’n cael teithio i’r gêm 16 olaf yn Amsterdam