Alun Wyn Jones fydd capten y Llewod yn erbyn Siapan ym Murrayfield ddydd Sadwrn (26 Mehefin).

Mae Warren Gatland wedi enwi pum Cymro – Liam Williams, Josh Adams, Dan Biggar, Ken Owens ac Alun Wyn Jones – yn y tîm, gyda Taulupe Faletau a Wyn Jones ar y fainc.

Mae yno chwe Gwyddel a phedwar Albanwr yn y tîm, ond dim un Sais.

Bydd wyth o’r chwaraewyr yn dechrau gêm i’r Llewod am y tro cyntaf.

Mae disgwyl y bydd torf o 16,500 ym Murrayfield i weld y Llewod yn herio Siapan am y tro cyntaf erioed.

Ac mae Warren Gatland yn credu y bydd y cefnogwyr yn “hwb enfawr” i’w dîm.

Yn y cyfamser, dyw hi dal ddim yn glir a fydd yr ornest yn cael statws prawf llawn.

Bydd pob chwaraewr ‘newydd’ yn derbyn cap a rhif chwaraewr ar gyfer y gêm, ond mae bwrdd y Llewod yn dal i drafod a fydd chwaraewyr yn cael cap rhyngwladol – a bydd hynny’n destun ymgynghoriad pellach.

Mae taith wyth y Llewod i Dde Affrica yn dechrau ddydd Sadwrn (3 Gorffennaf) yn Johannesburg ac mae’r gyfres Brawf yn dechrau yn Cape Town dair wythnos yn ddiweddarach.

“Gêm galed”

“Bydd y dorf yn rhoi hwb enfawr i’r chwaraewyr,” meddai Warren Gatland.

“Rydyn ni’n rhagweld gêm galed yn erbyn Japan – tîm sy’n hoffi chwarae gyda thempo uchel a symud y bêl.

“Gwelsom drwy gydol Cwpan y Byd fod ganddynt fygythiadau ymosodol ar draws y cae yn ogystal ag amddiffyn cadarn.

“Rwy’n falch o’r cynnydd rydym wedi’i wneud yn ystod ein gwersyll hyfforddi yn Jersey hyd yma, ond mae gennym dipyn o ffordd i fynd eto.

“Gallwch weld bod y garfan yn dechrau mynd i’r afael â’n strategaethau, ond, fel bob amser gyda Thaith y Llewod, mae hyn yn cymryd amser.”

Y tîm:

Liam Williams (Cymru), Josh Adams (Cymru), Robbie Henshaw (Iwerddon), Bundee Aki (Iwerddon), Duhan van der Merwe (Yr Alban), Dan Biggar (Cymru), Conor Murray (Iwerddon), Rory Sutherland (Yr Alban), Ken Owens (Cymru), Zander Fagerson (Yr Alban), Iain Henderson (Iwerddon), Alun Wyn Jones – Capten (Cymru), Tadhg Beirne (Iwerddon), Hamish Watson (Yr Alban), Jack Conan (Iwerddon).

Eilyddion:

Jamie George (Lloegr), Wyn Jones (Cymru), Tadhg Furlong (Iwerddon), Courtney Lawes (Lloegr), Taulupe Faletau (Cymru), Ali Price (Yr Alban) Owen Farrell (Lloegr), Anthony Watson (Lloegr).