Mae cytundeb i sicrhau bod rownd derfynol Ewro 2020 yn cael ei chynnal yn Wembley yn agos at gael ei daro rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac Uefa.
Dywedodd un o ffynonellau Llywodraeth y DU bod trafodaethau “cadarnhaol” wedi cael eu cynnal gyda Uefa i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â chyfyngiadau’r coronafeirws.
Mae’n debyg bod Uefa yn pwyso am ganiatáu 2,500 o westeion ‘VIP’ i fynychu’r rownd derfynol ar 11 Gorffennaf heb fod yn destun i ofynion cwarantîn sy’n berthnasol i deithwyr rhyngwladol eraill.
Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae’r “manylion terfynol yn cael eu trafod” ond mae gweinidogion wedi nodi y byddai rhai cyfyngiadau yn parhau i fod mewn grym.
Ddydd Llun (21 Mehefin), dywedodd y Gweinidog Diwylliant, y Farwnes Barran, nad oedd penderfyniad terfynol wedi’i wneud, a bod trafodaethau’n parhau.
Ychwanegodd na fyddai gwesteion arbennig yn cael eu heithrio o gyfyngiadau’r Llywodraeth ond yn hytrach dim ond yn gallu gadael cwarantîn ar gyfer digwyddiadau swyddogol.
Byddant yn destun profion a threfniadau swigod, a byddai “cod ymddygiad llym iawn” ar waith, meddai.
Mae Lloegr yn herio’r Weriniaeth Tsiec yn Wembley nos Fawrth (22 Mehefin) ac mae’r stadiwm hefyd i fod i gynnal pum gêm arall yn ystod y twrnament, gan gynnwys rowndiau cynderfynol a’r rownd derfynol.
Bydd torfeydd o 40,000 yn cael eu caniatáu ar gyfer y pedair gêm olaf er gwaethaf y penderfyniad i ohirio llacio’r cyfyngiadau coronafeirws yn Lloegr.
Mae rhai adroddiadau yn awgrymu y gallai’r rownd derfynol gael ei symud i Bwdapest os na ellir dod i gytundeb.
Mae Mario Draghi, Prif Weinidog yr Eidal, hefyd wedi awgrymu y gallai Rhufain gynnal y rownd derfynol.