Mae cefnogwyr Denmarc wedi cael gwybod bod modd iddyn nhw deithio i Amsterdam i wylio’r gêm yn erbyn Cymru yn rownd yr 16 olaf Ewro 2020.

Roedd adroddiad ddydd Llun (21 Mehefin) yn dweud na fyddai cefnogwyr Cymru na Denmarc yn cael mynychu’r gêm gan nad yw’r ddwy wlad ar restr gwledydd diogel yr Iseldiroedd.

Ond dywedodd Erik Brogger, cyfarwyddwr Materion Tramor a Gwasanaeth Dinasyddion Denmarc, wrth gynhadledd i’r wasg ddydd Mawrth (22 Mehefin) y gallai cefnogwyr Denmarc osgoi cwarantin yn yr Iseldiroedd pe baen nhw’n dod i mewn ac allan o’r wlad o fewn 12 awr.

“Gallwch fynd i’r pêl-droed, ond mae’n rhaid i chi gynllunio’n eithaf gofalus os nad ydych am fynd i gwarantin mewn gwesty,” meddai.

“Dylai fod yn dechnegol bosibl, ond mae’n rhaid i chi ei gynllunio’n eithaf gofalus.

“I’r rhan fwyaf o bobol, mae’n debyg y bydd yn well aros gartref.

“Rydym yn eich annog i wylio’r gêm gartref.”

Dywedodd awdurdodau Denmarc y gallai cefnogwyr deithio os ydynt yn cyflwyno prawf PCR negyddol.

Mae’r newyddion yn debygol o gorddi’r dyfroedd gyda chefnogwyr Cymru, a gafodd wybod ddydd Llun (21 Mehefin) eu bod wedi’u gwahardd o’r gêm.

Dim croeso i’r Cymry

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, na fyddai’r heddlu yn Amsterdam yn “gadael cefnogwyr Cymru i mewn i’r wlad.”

“Rydym wedi cael rhywfaint o arweiniad gan yr heddlu yn Amsterdam sydd wedi dweud wrthym na fyddan nhw’n gadael cefnogwyr Cymru i mewn i’r wlad,” meddai.

“Ac felly mae hynny’n golygu y bydden ni’n eich annog, wrth gwrs, i aros yma a gwylio’r gemau’n ofalus.

“Os bydd awdurdodau lleol yn dod atom ac yn gofyn i ni am sefydlu parthau cefnogwyr, yna wrth gwrs byddwn ni fel llywodraeth yn ystyried hynny ac yn cyhoeddi canllawiau ar sut y gellid gwneud hynny mewn ffordd ddiogel.”

“Dinasyddion eilradd”

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas Cefnogwyr Pêl-droed Cymru, Vince Alm, wrth y BBC fod cefnogwyr Cymru yn cael eu trin fel “dinasyddion eilradd”.

“Mae’n siomedig iawn na chawsom wybod am hyn ar ddechrau’r gystadleuaeth,” meddai.

“Rwy’n credu y dylai UEFA fod wedi edrych ar y lleoliadau hyn a gwneud yn siŵr bod chwarae teg.”

Yn flaenorol, anogodd y Prif Weinidog Mark Drakeford gefnogwyr Cymru i beidio â theithio i gemau grŵp Cymru yn Azerbaijan a’r Eidal.

Teithiodd rhai cannoedd o gefnogwyr Cymru i Baku a Rhufain i weld Cymru’n gorffen yn ail yng Ngrŵp A a chymhwyso ar gyfer yr 16 olaf.

Fe sicrhaodd Denmarc eu lle yn yr ail rownd drwy guro Rwsia 4-1 neithiwr.

Ewros: Cymru am wynebu Denmarc yn rownd yr 16 olaf

Denmarc yn gorffen yn ail yn Grŵp B wedi buddugoliaeth yn erbyn Rwsia neithiwr (21 Mehefin)
Cefnogwyr Cymru yn Baku

“Dydi pêl-droed yn ddim byd heb gefnogwyr,” medd golwr Cymru

Danny Ward yn siarad yn dilyn y cyhoeddiad na fydd cefnogwyr Cymru’n cael teithio i’r gêm 16 olaf yn Amsterdam