Mae Roman Walker, y bowliwr cyflym o Wrecsam, wedi’i gynnwys yng ngharfan Morgannwg ar gyfer y gêm ugain pelawd yn erbyn Sussex yn Hove heno (nos Fawrth, Mehefin 22).

Daw hyn ar ôl iddo fe greu argraff wrth chwarae i’r ail dîm eleni.

Mae wedi’i alw i’r garfan yn lle Ruaidhri Smith, sydd wedi anafu llinyn y gâr wrth ymarfer, ac mae’r tîm meddygol yn parhau i asesu’r anaf.

Mae’r capten Chris Cooke yn dychwelyd ar ôl iddo yntau hefyd anafu llinyn y gâr, ond mae’r wicedwr wrth gefn, Tom Cullen, yn cadw ei le yn y garfan hefyd ar ôl herio Middlesex yr wythnos ddiwethaf.

Mae Morgannwg yn bumed yn y gystadleuaeth ar hyn o bryd, a hynny yn dilyn dwy fuddugoliaeth, tair colled ac un gêm anghyflawn oherwydd y tywydd.

Mae Sussex yn ddi-guro ac yn yr ail safle, dri phwynt uwchlaw Morgannwg.

Mae Morgannwg wedi colli chwech allan o’u saith gêm diwethaf yn Hove, gyda’r llall yn 2016 yn anghyflawn oherwydd y tywydd.

Carfan Sussex: L Wright (capten), W Beer, R Bopara, O Carter, H Crocombe, G Garton, T Head, A Lenham, T Mills, D Rawlins, O Robinson, P Salt, A Thomason, D Wiese

Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), N Selman, C Ingram, M Labuschagne, D Lloyd, K Carlson, C Taylor, D Douthwaite, J Weighell, M Neser, T van der Gugten, P Sisodiya, T Cullen, R Walker