Debora Morgante, Eidales sydd wedi dysgu Cymraeg, sy’n ailfyw holl gyffro’r gêm fawr rhwng Cymru a’r Eidal yn yr Ewros.

Mehefin yr 20fed 2021, Rhufain.

Mae’r haf wedi cyrraedd mewn pryd, mae’r gwres yn annioddefol ac mae’n niwlog.

Nifer fawr o Rufeinwyr wedi symud i lan y môr, lle maen nhw’n gobeithio am dipyn o wynt adfywiol ond, yn anffodus does dim, hyd yn oed ar y traeth.

Mae’n bosib dod o hyd i bach o ddiddanwch. Mae’n well aros gartref efallai ond na, maen nhw wedi treulio gormod o amser tu mewn. Mae’r cyfnod clo wedi mynd nawr, mae’n rhan o’r gorffennol ac mae’r Eidalwyr wedi ei adael ar eu holau, ’dyn nhw ddim eisiau meddwl amdani mwyach. Mae’n bryd mynd ymlaen, ailagor ac ailgymryd yn eu bywydau bob dydd fel yr oedden nhw cyn Mawrth 2020.

Rhufain yn barod

Yn Rhufain, mae popeth yn barod i groesawu’r gemau. Baneri yr Eidal yn chwifio ym mhob man i gefnogi’r tîm a’r genedl sy’ wedi dioddef gymaint yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ond mae’r prynhawn yn cyrraedd, mae hi bron yn 6 o’r gloch ac mae distawrwydd annaturiol o gwmpas y ddinas. Mae’r Rhufeinwyr wedi dod i arfer â distawrwydd o’r fath, ond dyw e ddim yr un peth tro yma.

Nid tristwch ac unigrwydd o achos y Cofid a’i gyfyngiadau yw hyn, ond miloedd ar filoedd o bobol sy’n paratoi i gymryd rhan yn un o’r sioeau pwysicaf yn y byd: yr Ewros. Dyma’r Eidalwyr o bob cwr o’r wlad fel un llais enfawr o flaen y teledu yn paratoi i ganu’r Anthem Genedlaethol, “Fratelli d’Italia”, i gefnogi eu tîm ac i ddathlu atgyfodiad y wlad ar ôl cyfnod mor anodd yn ein hanes ni.

Mae’n cynhesu calon gweld cynulledfa yn y stadiwm eto, ond dim ond grŵp bach o Gymry yn lliwio’r lle’n goch. Mae Llywodraeth yr Eidal wedi penderfynu y bydd rhaid i gefnogwyr Cymru wneud pum niwrnod o quarantine o achos yr amrywiolyn “D”. Ni fydd o’n bosib clywed llais mawr y Cymry sy’n llenwi’r stadiwm yn canu “Hen Wlad fy Nhadau”. Trist iawn!

Gwylio gartre’

Dw i’n penderfynu gwylio’r gêm yn nghysur fy nhŷ, yn eistedd ar y soffa. Mae lot o sgriniau mawr o gwmpas y ddinas ond mae’n rhy gynnes tu allan.

Dw i’n cefnogi’r Eidal achos Eidales ydw i. Dw i’n cefnogi Cymru achos, wel, dw i’n caru Cymru ers pan o’n i’n fy arddegau, felly mi fyddwn i’n hapus ’tasai’r Eidal yn gwneud ‘camp lawn’ ac mi fyddwn i’n hapus ’tasai Cymru’n gallu mynd ymlaen….

Mae gan yr Eidal lot o barch i dîm Cymru. Mae Bale a Ramsey yn enwog iawn yn yr Eidal ac mae’n grêt gweld bod gan Gymru fach chwaraewyr mor dalentog â nhw.

Dw i’n credu bod yr Eidal yn rhoi llawer mwy o sylw i Gymru nawr na chyn yr Ewros diwethaf, pan oedd Cymru bron iawn yn cael ei hadnabod gan arbenigwyr rygbi yn unig.

Mae’r gêm yn mynd ymlaen yn eitha’ araf, efallai o achos y gwres ond hefyd achos mae’r ddau dîm yn astudio ei gilydd. Mae’r Eidal yn ofalus, mae’n dîm ifanc, talentog, y ffefrynnau i ennill y bencampwriaeth ond dw i ddim am israddio tîm Cymru sy’ wedi gwneud gwaith eitha’ da fan hyn. Mae gan Gymru lygad ar be’ sy’n digwydd ar faes arall, yn ngêm Twrci yn erbyn y Swistir. Mae Cymru yn chwarae gyda’u calon ac yn amddiffyn yn gryf iawn. Ond yr Eidal sy’n rheoli ac yn ennill y gêm 1-0.

Cymru yn Amsterdam ar ôl ‘uffern y Cofid’

Dw i’n siŵr y bydd Cymru’n ymladd gyda’u holl nerth yn Amsterdam. Mae Cymru’n haeddu dod i oed yn y pêl-droed eleni.

Mae tîm yr Eidal yn gryf iawn ac mae’r cefnogwyr eisiau ailfyw breuddwyd Cwpan y Byd yr Eidal yn 1990 a’r nosweithiau hudolus hynny. Mae angen hapusrwydd, emosiwn a chalon lân, i ni yr Eidalwyr ac i bawb yn y byd. Gobeithio ’dyn ni wedi gadael uffern y Cofid ar ein holau ni am byth.