Mae Joe Rodon yn galw ar Gymru i ail-greu ysbryd Baku wrth i’r tîm pêl-droed cenedlaethol deithio i Amsterdam i herio Denmarc yn rownd 16 olaf Ewro 2020.
Fydd cefnogwyr Cymru ddim yn cael mynd ddydd Sadwrn (Mehefin 26), ond bydd cefnogwyr Denmarc yn cael teithio ar yr amod nad ydyn nhw’n treulio mwy na 12 awr yn yr Iseldiroedd.
Daeth cadarnhad ddoe (dydd Llun, Mehefin 21) na fyddai cefnogwyr Cymru’n cael teithio oherwydd cyfyngiadau Covid-19, ond gall cefnogwyr Denmarc osgoi mynd i gwarantîn wrth gyrraedd yr Iseldiroedd os nad ydyn nhw’n treulio mwy na 12 awr yno.
O ganlyniad, mae’n bosib y bydd dros 3,000 o gefnogwyr gan Ddenmarc allan o dorf o ryw 16,000 a’r gred yw mai Denmarc fydd yn cael cefnogaeth y trigolion lleol i raddau helaeth hefyd o ganlyniad i’r hyn ddigwyddodd i Christian Eriksen, a gafodd ei daro’n wael ar y cae yn ystod y gystadleuaeth.
Treuliodd Eriksen bum mlynedd yn Ajax rhwng 2008 a 2013.
Mae Cymru eisoes wedi ymdopi â thorf gartref yn Rhufain yn erbyn yr Eidal, a thorf o gefnogwyr Twrci yn Baku gan fod Azerbaijan yn gymydog iddyn nhw.
Mwynhau’r her yn Baku
“Roedd gêm Twrci yn Baku yn her roedden ni’n ei charu ac wedi ei mwynhau,” meddai Joe Rodon.
“Roedd ennill y gêm honno’n deimlad gwych.
“Mae’n rhwystredig na allwn ni gael ein cefnogwyr ein hunain, ond rhaid i ni fwrw iddi.
“Dw i jyst wrth fy modd o gael cefnogwyr yn ôl yn y stadiwm, i gael yr awyrgylch yna ’nôl.
“Y tensiwn yn y gêm, alla i ddim aros.
“Mae’n beth arferol mynd i gemau oddi cartref yn y tymor, rhywbeth mae’n rhaid i chi ddod i arfer â fe.
“Mae’n drueni na all ein cefnogwyr ni fod yno, ond mae’n ein cyffroi ni’n fwy i gael mynd i Amsterdam a pherfformio iddyn nhw gartref.”
Teithio’n bell
Mae Cymru eisoes wedi teithio’n bell yn ystod y gystadleuaeth – 3,000 o filltiroedd i Baku ar gyfer y ddwy gêm gyntaf, cyn mynd i Rufain a nawr, byddan nhw’n gorfod teithio i brifddinas yr Iseldiroedd.
“Mae’n her arall mynd i Amsterdam,” meddai Rodon, un o’r tri chwaraewr yng nghrys Cymru sydd wedi chwarae bob munud yn y twrnament hyd yn hyn.
“Mae’n gêm fawr ac mae Denmarc yn dîm da iawn.
“Bydd yn dod i eiliadau yn y gêm, ond bydd rhaid i ni danio a chanolbwyntio am y 90 munud cyfan neu amser ychwanegol.
“Ond allwn ni ddim aros i’r penwythnos ddod.”