Mae Alex Cuthbert, cyn-asgellwr tîm rygbi Cymru, wedi ymuno â’r Gweilch o’r Exeter Chiefs.
Mae’r chwaraewr 31 oed wedi llofnodi cytundeb ar gyfer y tymor nesaf, ar ôl treulio tair blynedd yn chwarae yn Lloegr.
Mae e wedi ennill 47 o gapiau dros Gymru, ac roedd e’n aelod o’r garfan enillodd y Gamp Lawn yn 2012 a Phencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2013, gan ennill ei le yng ngharfan y Llewod ar gyfer y daith i Awstralia, lle sgoriodd e gais wrth i’r Llewod ennill y gyfres o 2-1.
“Mae Alex yn berfformiwr sydd wedi’i brofi’i hun ar y lefel uchaf a bydd e’n dod â phrofiad o chwarae rygbi rhyngwladol a phrofiad o dîm sydd â meddylfryd o ennill gyda fe, ac yntau wedi bod gyda phencampwyr y Premiership ac Ewrop yn 2020.”