Mae gêm griced ugain pelawd Morgannwg yn erbyn Sussex yn Hove wedi cael ei chanslo awr a hanner cyn amser dechrau’r ornest yn y Vitality Blast.

Dyma’r drydedd gêm yn olynol ar y cae yn Sussex i gael ei chanslo oherwydd y tywydd.

Fe fu glaw trwm yno ers 36 awr, a gwnaeth y dyfarnwyr Paul Pollard a Rob Bailey benderfyniad yn dilyn archwiliad hir o’r cae.

Daethon nhw i’r casgliad fod y cae yn rhy beryglus ac na fyddai modd datrys y sefyllfa mewn da bryd i gynnal y gêm.

Mae’r ddau dîm yn ennill pwynt yr un.

Mae Morgannwg yn bumed ar ôl dwy fuddugoliaeth allan o saith, ac fe fyddan nhw’n teithio i Fryste i herio Swydd Gaerloyw nos Iau.

Mae Sussex yn ddi-guro yn y gystadleuaeth ar ôl chwe gêm, ac maen nhw’n ail yn y tabl.