Mae Connor Roberts eisiau gweld mwy o gefnogwyr yn cael y cyfle i wylio Cymru yn Ewro 2020.

Fe deithiodd carfan Cymru i Rufain ar gyfer eu gêm olaf yng Ngrŵp A yn erbyn yr Eidal ar ôl bod yn Baku – sydd 3,000 milltir o Gymru – am 11 diwrnod.

Cynghorwyd cefnogwyr gan Lywodraeth Cymru i beidio â theithio i Baku, gydag Azerbaijan ar eu ‘rhestr ambr’ yn sgil y pandemig.

Bydd yn rhaid i’r cefnogwyr wnaeth deithio i Baku aros gartref am 10 diwrnod yn hunan-ynysu ar ôl dychwelyd i Gymru.

Roedd tua 300 o’r ‘Wal Goch’ yn Stadiwm Olympaidd Baku i weld tîm Rob Page yn trechu Twrci o 2-0.

Mae’n ganlyniadau sydd wedi gadael Cymru mewn sefyllfa wych i fynd trwodd i rownd yr 16 olaf, cyn herio arweinwyr grŵp A bnawn Sul, sef yr Eidal.

“Gobeithio y gallwn ni fynd mor bell â phosibl yn y gystadleuaeth,” meddai amddiffynnwr Abertawe, Connor Roberts, a sgoriodd yn yr eiliadau olaf yn erbyn Twrci.

“Efallai y gallwn gael mwy a mwy o gefnogwyr i gyrraedd y gemau i’n cefnogi.

“Mae’n un peth cefnogi o gartref, ond mae bod yno yn brofiad gwahanol.”

Pwy allai Cymru chwarae yn y rownd nesaf?

Byddai curo’r Eidal, sydd heb golli yn eu 29 gêm ddiwethaf yn y Stadio Olimpico, yn rhoi Cymru ar frig eu grŵp.

Byddai hynny’n sichrau gêm yn Wembley yn rownd yr 16 olaf – gyda thua 40,000 o gefnogwyr yn cael bod yno – yn erbyn y tîm sy’n dod yn ail yng Ngrŵp C.

Mae’n edrych yn debygol mai un ai Awstria neu’r Wcráin fydd y tîm hwnnw.

Y senario mwyaf tebygol, fodd bynnag, yw bod Cymru’n gorffen yn yr ail safle ac yn teithio i Amsterdam i chwarae’r tîm sy’n dod yn ail yn yng Ngrŵp B.

Mae pethau’n agos yn y grŵp hwnnw, ac mae hi dal yn bosib i Rwsia, y Ffindir a Denmarc orffen yn ail, gyda Gwlad Belg yn edrych bron yn saff o orffen ar y brig.

Roedd 12,000 o gefnogwyr yn y Johan Cruyff Arena yn Amsterdam ar gyfer gêm grŵp yr Iseldiroedd yn erbyn yr Wcráin ddydd Iau (17 Mehefin).

Gallai Cymru hefyd fod yn un o’r pedwar tîm gorau yn y trydydd safle gyda Bucharest, Glasgow a Seville fel lleoliadau posibl ar gyfer eu gornest yn rownd yr 16 olaf.

“Un o’r nosweithiau da”

Wrth drafod y posibiliadau cyn gadael Azerbaijan am Rufain, dywedodd Connor Roberts wrth y BBC:

“Pe baech chi’n cynnig [chwarae mewn lleoliad yn agosach at Gymru] i mi nawr, wrth gwrs byddwn i yn ei gymryd.

“Dw i’n meddwl fod bod yma [yn Baku yn anoddach] o’i gymharu â’r Alban, Lloegr a’r rhan fwyaf o dimau sydd wedi bod yn agos at adref ac wedi gallu cael cefnogwyr yno.

“Rydym wedi bod hanner ffordd o amgylch y byd a dim ond ychydig gannoedd o gefnogwyr oedd gennym oherwydd ei bod hi mor anodd iddyn nhw gyrraedd yma.

“Da iawn i’r rhai oedd yno’r noson o’r blaen. Mae’n rhywbeth y byddan nhw’n ei gofio am byth, dim ond llond llaw ohonyn nhw, ond roedden nhw yno ar un o’r nosweithiau da.”