Bydd Cymru yn wynebu’r Eidal yfory (dydd Sadwrn, 19 Mehefin) yn eu gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad Dan 20 eleni.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal ym Mharc yr Arfan, Caerdydd, gyda’r gic gyntaf am wyth o’r gloch y nos.

Mae gan dîm Cymru bedwar o chwaraewr a fu yn y gystadleuaeth y llynedd – Sam Costelow, Jacob Beetham, Dan John a Joe Hawkins – gyda dau arall – James Fender a Theo Bevacqua – ar y fainc.

Dyma’r tro cyntaf i Gymru Dan 20 chwarae ar y lefel hon ers bron i 15 mis, a byddan nhw’n gobeithio gwneud yn iawn ar ôl colli yn erbyn yr Eidal y llynedd.

“Mae’n wych gweld y bechgyn yn cael cyfle i berfformio o’r diwedd,” meddai’r hyfforddwr Ioan Cunningham.

“Gan nad ydyn nhw wedi chwarae ers cymaint o amser, bydd rhai gwallau, bydd camgymeriadau, rydym yn derbyn hynny.

“Ond cyn belled ein bod yn perfformio ac yn gadael popeth allan ar y cae, dyna’r peth pwysicaf i mi ac rwy’n siŵr y bydd y gweddill yn gofalu amdano’i hun.”

Talodd Ioan Cunningham deyrnged i’w chwaraewyr am sicrhau bod penderfyniadau anodd i’w gwneud cyn dewis y tîm terfynol.

“Roedd llawer o ddadlau dros rai penderfyniadau a phob clod i’r bechgyn, maen nhw wedi rhoi cur pen i ni wrth ddewis, sef yr hyn rydyn ni ei eisiau…

“Cafwyd rhai sgyrsiau anodd gyda chwaraewyr ond yn y pen draw mae pawb yn gyffrous ac yn awyddus i ddechrau’r gystadleuaeth.

“Rydym yn teimlo fod y pymtheg a’r fainc yr ydym wedi’u dewis yn barod i fynd.”

Y tîm

15 Jacob Beetham (Caerdydd)

14 Dan John (Exeter Chiefs)

13 Ioan Evans (Pontypridd)

12 Joe Hawkins (Gweilch)

11 Carrick McDonough (Dreigiau)

10 Sam Costelow (Scarlets)

9 Harri Williams (Scarlets);

1 Garyn Phillips (Gweilch)

2 Efan Daniel (Caerdydd)

3 Nathan Evans (Caerdydd)

4 Joe Peard (Dreigiau)

5 Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs)

6 Alex Mann (Caerdydd – Capten)

7 Harri Deaves (Gweilch)

8 Carwyn Tuipulotu (Scarlets)

Eilyddion

16 Oliver Burrows (Exeter Chiefs)

17 Theo Bevacqua (Caerdydd)

18 Lewys Jones (Nevers)

19 James Fender (Gweilch)

20 Tristan Davies (Gweilch)

21 Ethan Lloyd (Caerdydd)

22 Will Reed (Dreigiau)

23 Tom Florence (Gweilch)

24 Morgan Richards (Dreigiau/Pontypridd)

25 Eddie James (Scarlets)

26 Evan Lloyd (Caerdydd)