Mae Jasmine Joyce, o Sir Benfro, wedi cael ei dewis i chwarae rygbi 7 bob ochr tros Brydain yng Ngemau Olympaidd Tokyo.

Dyma’r ail waith iddi gael ei dewis i chwarae yn y Gemau Olympaidd, ar ôl i Brydain ddod yn bedwerydd yn Rio 2016.

Yn 20 oed, Jasmine oedd un o’r chwaraewyr ieuengaf yng ngharfan Prydain bum mlynedd yn ôl ym Mrasil, pan ddaeth Prydain yn bedwerydd.

Ond y tro yma mae hi’n dweud ei bod hi eisiau dychwelyd gyda medal aur.

“Ar ôl y profiad anhygoel o gystadlu yn Rio, mae dychwelyd i Gemau Olympaidd arall wedi bod wrth wraidd popeth rwyf wedi’i wneud dros y pum mlynedd ddiwethaf ac mae cael fy enwi yn y garfan yn deimlad gwerth chweil,” meddai.

“Fi oedd y ferch newydd yn Rio, heb fawr o bwysau ar fy ysgwyddau.

“Yn bendant, mae gen i feddylfryd gwahanol y tro hwn.

“Mae pobol yn gwybod sut rydw i’n chwarae ac mae mwy o bwysau arnaf i berfformio, ond rwy’n hapus gyda hynny.

“Roeddem yn siomedig i beidio ennill medal y tro diwethaf ac rydym yn bendant yn mynd am aur fis nesaf.”

Mae twrnament rygbi 7 bob ochr merched yn cael ei gynnal rhwng 29 a 31 Gorffennaf.

“Chwifio’r faner dros Rygbi Cymru”

Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Steve Phillips: “Llongyfarchiadau mawr i Jasmine Joyce a fydd yn chwifio’r faner dros Rygbi Cymru yn Tokyo fis nesaf.

“Mae’n gamp enfawr i fod yn y gemau Olympaidd unwaith, heb sôn am ddwywaith, ac mae’n siŵr y bydd Jasmine yn gwneud ei theulu, ei ffrindiau a rygbi Cymru yn falch ar lwyfan y byd unwaith eto.

“Mae ganddi ein cefnogaeth lawn a byddwn yn dilyn y gemau yn Stadiwm Tokyo yn agos iawn.”