Dydy Neville Southall, cyn-golwr Cymru, ddim am weld Rafa Benitez yn cael ei benodi’n rheolwr ar ei hen glwb Everton.

Cyn-reolwr Lerpwl yw’r ffefryn ar gyfer y swydd erbyn hyn.

Cafodd e gryn dipyn o lwyddiant yn Anfield, gan ennill Cynhrair y Pencampwyr a Chwpan FA Lloegr ac fe aeth yn ei flaen i reoli Inter Milan, Chelsea, Napoli, Real Madrid, Newcastle a Dalian Proffesional.

Mae swydd rheolwr Everton yn wag ar ôl i’r Eidalwr Carlo Ancelotti ddychwelyd i Real Madrid ar ddechrau’r mis.

Ond dydy cefnogwyr Everton ddim am weld cyn-reolwr Lerpwl yn cael ei benodi, ac mae Neville Southall yn cytuno â nhw – yn enwedig ar ôl iddo alw Everton yn “glwb bach” ar ôl y gêm ddarbi fawr yn 2007.

“Dw i’n credu bod Rafa Benitez yn rheolwr da, ond a yw e’n iawn i Everton? Na. Dim gobaith!” meddai wrth talkSPORT.

“Lerpwl yw e, fydd y cefnogwyr ddim yn ei dderbyn e.

“Os daw e i mewn i’r cae, fe fydd rhaid iddo fe greu rhywbeth arbennig ac, ar hyn o bryd gyda’r garfan sydd gyda ni, byddai’n gwneud yn dda pe bai’n gwneud rhywbeth arbennig yma oherwydd mae’r gwaith yn dal ar y gweill.”

Mae’n dweud ei fod e am weld un o fawrion Everton, Duncan Ferguson, yn cael ei benodi ac yntau wedi bod yn is-reolwr gydag Ancelotti.

“Ond Benitez? Na.

“Rheolwr da ynddo’i hun, ond gormod o gysylltiadau â Lerpwl.”

Ymhlith y rhai eraill dan ystyriaeth mae Roberto Martinez, cyn-reolwr Abertawe.