Fe wnaeth Colin Ingram serennu yng Nghaerdydd heno (nos Wener, Mehefin 18), wrth i dîm criced Morgannwg guro Middlesex o 21 rhediad mewn gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast.

Sgoriodd Morgannwg 150 am naw yn eu hugain pelawd, gydag Ingram (75) yn sgorio’u hanner nhw oddi ar 48 o belenni, cyn i Middlesex ymateb gyda dim ond 129 am naw wrth i’r Iseldirwr Timm van der Gugten gipio tair wiced am 16 yn ei bedair pelawd.

Roedd dwy wiced i Dan Douthwaite hefyd wrth iddo fe ildio dim ond 24 yn ei bedair pelawd.

Yn ystod batiad Morgannwg, cipiodd Steven Finn bedair wiced am 19 i Middlesex, gyda Blake Cullen yn cipio tair am 33 a Luke Hollman ddwy am 35.

Manylion y gêm

Penderfynodd Morgannwg fatio ar ôl galw’n gywir ac fe wnaeth Ingram ymosod o’r dechrau wrth daro chwech cyn i Blake Cullen gipio wiced Nick Selman wrth daro’i goes o flaen y wiced am dri yn y drydedd pelawd.

Gyda Marnus Labuschagne ben draw’r llain, llwyddodd Ingram i sefydlogi’r batiad yn y cyfnod clatsio wrth i Forgannwg gyrraedd 41 am un ar ôl chwe phelawd.

Ond cipiodd Finn ddwy wiced yn y degfed pelawd, wrth fowlio Labuschagne am 13 a tharo coes David Lloyd o flaen y wiced heb sgorio, i adael Morgannwg yn 72 am dair, ac yn 74 am dair ar ôl hanner eu pelawdau.

Cyrhaeddodd Ingram ei hanner canred oddi ar 30 o belenni cyn i Kiran Carlson gael ei ddal gan Hollman oddi ar ei fowlio’i hun am chwech yn yr unfed belawd ar ddeg.

Yn ei belawd nesaf, fe wnaeth Hollman fowlio Callum Taylor am bump, cyn i Hollman ddal Dan Douthwaite ar y ffin oddi ar fowlio Finn dair pelawd yn ddiweddarach.

Roedden nhw’n 107 am chwech erbyn hynny a’u gobeithion o osod nod sylweddol yn dechrau pylu.

Cipiodd Finn ei bedwaredd wiced wrth fowlio Ruaidhri Smith heb sgorio, cyn i Ingram gael ei ddal gan Paul Stirling oddi ar fowlio Cullen i ddod â’i fatiad allweddol i ben yn niwedd yr ail belawd ar bymtheg.

Tarodd van der Gugten 18 oddi ar 11 o belenni tua’r diwedd a chollodd Morgannwg eu nawfed wiced pan gafodd Tom Cullen ei ddal gan y wicedwr John Simpson oddi ar fowlio Blake Cullen am bump.

Cwrso

Dair pelen yn unig gymerodd hi i Forgannwg gipio wiced gynta’r ymwelwyr, wrth i Stevie Eskinazi gael ei ddal gan Tom Cullen oddi ar fowlio’r troellwr llaw chwith Prem Sisodiya.

Roedd Middlesex yn 17 am ddwy yn y bedwaredd pelawd pan gipiodd Sisodiya ddaliad oddi ar fowlio van der Gugten i waredu Joe Cracknell i ddod â’r Gwyddel Eoin Morgan, capten undydd Lloegr, i’r llain wrth i’w dîm orffen y cyfnod clatsio ar 35 am ddwy.

Tarodd Gwyddel arall, Paul Stirling, 46 oddi ar 36 o belenni – gan gynnwys tri phedwar a thri chwech – cyn cael ei ddal gan Ingram oddi ar fowlio van der Gugten yn y deuddegfed pelawd.

Roedd Middlesex yn 78 am dair erbyn hynny, ond roedden nhw’n 80 am bedair yn fuan wedyn pan darodd Lloyd goes Simpson o flaen y wiced heb sgorio.

Daeth yr ergyd fawr i Middlesex wrth iddyn nhw golli Morgan am 33 wrth iddo fe gael ei fowlio gan Smith i adael ei dîm yn 94 am bump yn niwedd y bedwaredd pelawd ar ddeg.

Cafodd Hollman ei ddal gan Ingram oddi ar fowlio Douthwaite am 12 yn yr ail belawd ar bymtheg ac roedd angen 31 ar y Saeson oddi ar y ddwy belawd olaf i ennill.

Ond collon nhw dair wiced arall mewn saith pelen wedyn i ddirwyn yr ornest i ben.

Cafodd Chris Green ei ddal gan Labuschagne oddi ar fowlio Douthwaite, cyn i Smith ddal Cullen oddi ar fowlio van der Gugten am bedwar i adael Middlesex yn 124 am wyth ar ôl 19.1 o belawdau.

Gyda’r gêm ar ben i’r ymwelwyr, cafodd Finn ei redeg allan gan Labuschagne oddi ar belen ola’r ornest i anfon y Saeson adre’n waglaw.