Dywed Joe Allen ei fod wrth ei fodd yn gweld Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn profi eu beirniaid yn gwbl anghywir yn Ewro 2020.

Daw hyn ar ôl i’r ddau ddisgleirio wrth guro Twrci nos Fercher a rhoi Cymru o fewn o dim i gyrraedd rownd yr 16 olaf.

“Pan ydych chi’n chwaraewyr byd-enwog fel Gareth ac Aaron, mae’r sylw am fod bob amser arnoch chi,” meddai chwaraewr canol cae Cymru.

“Dw i’n meddwl fod y ddau ohonyn nhw’n anhygoel y noson o’r blaen, ac yn sicr fe wnaethon nhw roi eu beirniaid yn eu lle.”

Tymor cymysg mae Gareth Bale wedi ei gael ar fenthyg i Tottenham gan Real Madrid, wrth i Jose Mourinho ei gadw ar y fainc yn aml cyn iddo adael ym mis Ebrill. Ymddangosodd capten Cymru ar gychwyn 10 yn unig o gemau’r Uwch Gyngrair, ond sgoriodd 16 o goliau.

Mae Aaron Ramsey hefyd wedi cael ysbeidiau segur yn sgil problemau ffitrwydd gyda Juventus, ond mae’n ymddangos yn holliach wrth iddo ddychwelyd i’r Eidal ar gyfer gêm derfynol Grwp A Cymru yfory.

Mae’r Eidal wedi curo Twrci a’r Swistir 3-0, ond mae Joe Allen yn credu y bydd Cymru’n elwa ar y ffaith nad nhw fydd y ffefrynnau yn y Stadio Olimpico.

“Mae hyn yn ein siwtio ni i’r dim,” meddai. “Rydym yn gwybod y gallwn ddibynnu ar fod yn gadarn yn amddiffynnol.

“Rydym yn gwybod bod pawb am wneud eu gorau a rhoi popeth i amddiffyn ein gôl ein hunain.

“A gyda phobl fel Gareth ac Aaron, Daniel James a Kieffer Moore, mae gennym bob mathau o fygythiadau.

“Mae gennym y gallu i beri niwed i dimau.”