Doedd dim modd cynnal gêm ugain pelawd Morgannwg yn erbyn Gwlad yr Haf yn Taunton heno (nos Sadwrn, Mehefin 19) o ganlyniad i’r glaw.
Roedd disgwyl i’r gêm gael ei darlledu’n fyw ar Sky Sports.
Roedd hi eisoes yn bwrw glaw erbyn 7 o’r gloch, sef amser dechrau’r ornest, ac fe gafodd y dafl a chyhoeddi’r timau eu gohirio.
Ond fe waethygodd y tywydd a chafodd yr ornest ei chanslo gan y dyfarnwyr Nigel Llong a Steve O’Shaughnessy am 8.25yh.
Mae Morgannwg wedi ennill pum pwynt yn eu chwe gêm gyntaf ac maen nhw’n wynebu cryn her erbyn hyn os ydyn nhw am gyrraedd y rowndiau terfynol.