Gallai tîm pêl-droed Cymru elwa o gael gêm 16 olaf yn Ewro 2020 yn Wembley, yn ôl y capten Gareth Bale.

Daw ei sylwadau wrth i’r tîm cenedlaethol baratoi i herio’r Eidal yn Rhufain heddiw (dydd Sul, Mehefin 20) i fod yn sicr o’u lle yn y rowndiau olaf.

Byddai buddugoliaeth yn golygu bod tîm Robert Page yn gorffen ar y brig, ond mae gêm gyfartal yn ddigon i’r Eidalwyr, wrth iddyn nhw geisio dorri eu record gyda 30ain gêm yn ddi-guro.

Gwrthwynebwyr mwyaf tebygol Cymru yn Wembley fyddai Awstria neu’r Wcráin.

Ond pe bai Cymru’n gorffen yn ail, fe allen nhw herio Denmarc, y Ffindir neu Rwsia yn Amsterdam.

“Byddai’n ganlyniad gwych i ni pe baen ni’n curo’r Eidal,” meddai Bale.

“Yn amlwg, bydden ni’n ennill y grŵp ac yn cael gêm ychydig yn haws wrth fynd i’r rownd nesaf, am wn i.

“Byddai cael cefnogwyr Cymru i ddod i’n gwylio ni’n rywbeth fydden ni’n dwlu ei wneud.

“Y nod i ni yw ennill y grŵp a byddai’r gêm honno yn Wembley, fyddai’n wych i gefnogwyr Cymru.

“Mae’r Eidal yn chwarae pêl-droed yn dda iawn, yn ymosodol iawn, a dydyn nhw ddim yn ildio llawer.

“Maen nhw’n dîm cyflawn a chanddyn nhw’r adnoddau, ond dydy hynny ddim yn golygu nad oes ganddyn nhw wendidau.

“Rydyn ni wedi gweithio ar bethau ac yn sicr yn meddwl fod yna lefydd i ni eu hecsbloetio.”

Y tîm

Wrth lygadu rownd yr 16 olaf, mae disgwyl i’r rheolwr Robert Page wneud nifer o newidiadau i’r tîm ar ôl enwi’r un tîm ar gyfer y ddwy gêm gyntaf yn erbyn y Swistir a Thwrci.

Mae Chris Mepham, Ben Davies a Kieffer Moore un cerdyn melyn i ffwrdd o waharddiad.

Bum mlynedd yn ôl yn Ffrainc, cafodd Davies ac Aaron Ramsey eu gwahardd ar gyfer y gêm gyn-derfynol yn erbyn Portiwgal wrth i Gymru fynd allan o’r gystadleuaeth.

Serch hynny, mae Page yn mynnu y bydd e’n “dewis tîm rydyn ni’n credu sy’n gallu ennill y gêm”.

Mae’r gêm yn gyfle i Aaron Ramsey ddychwelyd adref, ac yntau bellach yn chwarae i Juventus, ac i brofi ei ffitrwydd yn dilyn amheuon ar ôl iddo fethu ag ymarfer cyn dechrau’r gystadleuaeth.

Sgoriodd ei ail gôl ar bymtheg dros ei wlad yn erbyn Twrci, ac mae e bellach yn seithfed ar restr prif sgorwyr ei wlad mewn gemau rhyngwladol.

Yn ôl Page, “does gan Aaron ddim byd i’w brofi”.

“Ond mae e wir yn edrych ymlaen at y gêm,” meddai.

“Dydy e ddim wedi chwarae i Juventus gymaint ag y byddai wedi hoffi, ond mae e wedi codi i lefel arall, i fi, gyda’i berfformiadau i ni.”