Mae Cymro Cymraeg wedi cyrraedd brig cystadleuaeth cynghrair ffantasi Euro 2020.

Aeth Ioan Gwyn o Gaerdydd ati i ddewis ei dîm gan ddefnyddio cyfleuster ‘Limitless’, sy’n galluogi chwaraewyr i wneud nifer amhenodol o drosglwyddiadau.

‘Dwylo Dros y Moore’ yw enw ei dîm, gan gyfeirio at Kieffer Moore a fydd, mae’n siŵr, yn allweddol i obeithion Cymru yng ngweddill y gystadleuaeth ac wrth iddyn nhw herio’r Eidal yn eu gêm grŵp olaf heddiw (dydd Sul, Mehefin 20).

Ond dyw Moore ei hun ddim yn y tîm ffantasi.

Mae ei ddau dîm fel a ganlyn:

Tîm 1 – Lukáš Hrádecký (Slofacia); Leonardo Spinazzola (Yr Eidal), Denzel Dumfries (Yr Iseldiroedd), Pau Torres (Sbaen); Fernando Torres (Sbaen), David Alaba (Awstria), Lorenzo Insigne (Yr Eidal), Domenico Berardi (Yr Eidal); Cristiano Ronaldo (Portiwgal), Romelu Lukaku (Gwlad Belg), Roman Yaremchuk (Yr Wcráin).

Tîm 2 – Gianluigi Donnarumma (Yr Eidal); Jordi Alba (Sbaen), Leonardo Spinazzola (Yr Eidal), Denzel Dumfries (Yr Iseldiroedd); Emil Forsberg (Sweden), Aleksandr Golovin (Rwsia), Georginio Wijnaldum (Yr Iseldiroedd), Andriy Yarmolenko (Yr Wcráin), Lorenzo Insigne (Yr Eidal); Antoine Griezmann (Ffrainc), Roman Yaremchuk (Yr Wcráin).

Tactegau – a gobeithion Cymru

“Es i am ddau dîm gan ddefnyddio Limitless, un o’r “chips”, ar gyfer yr ail rownd,” eglura wrth golwg360.

“Dwi’n gwneud y mwyaf ohoni tra dwi yna!” meddai wedyn am ei obeithion o ennill y gynghrair.

“Dim siawns i fi orffan yma!”

Ond beth am obeithion Cymru a Kieffer Moore yng ngweddill y gystadleuaeth?

“Dw i ddim yn gweld sgôr da i Gymru heno yn anffodus,” meddai.

“Mae’r Eidal yn edrych on point – 3-1 i nhw heno. Fyddai’n hapus iawn i fod yn anghywir!

“Er, dwi’n ffyddiog am y rownd o 16.”

Mae’n dweud ei fod e am i Gymru osgoi’r Wcráin ond “fysa Rwsia neu’r Ffindir yn grêt i Gymru”.