Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gorfodi gweithwyr ym maes gofal i gael eu brechu rhag haint Covid-19.
Yr wythnos hon mae Llywodraeth Prydain wedi penderfynu y bydd yn rhaid i weithwyr cartrefi gofal yn Lloegr dderbyn y ddau ddos o’r brechlyn o fewn 16 wythnos, er mwyn gallu parhau i weithio yn y cartrefi.
Ond mae ofnau y bydd gweithwyr yn rhoi’r gorau i’w swyddi yn hytrach na chydymffurfio, gan waethygu lefelau staffio mewn cartrefi gofal lle mae recriwtio eisoes yn broblem.
Bu’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn trafod y sefyllfa yma yng Nghymru gyda Sky News fore heddiw (18 Mehefin) gan egluro fod nifer fawr o weithwyr cartrefi gofal yn derbyn y brechlyn.
Ac wrth drafod lledaeniad amrywiolyn Delta yng Nghymru, disgrifiodd y Prif Weinidog y sefyllfa fel un “sy’n peri pryder”.
Amrywiolyn Delta sy’n gyfrifol am bedwar o bob pum achos newydd o Covid yng Nghymru ar hyn o bryd, a ddoe (17 Mehefin) cyhoeddodd Mark Drakeford na fydd llacio pellach ar gyfyngiadau am bedair wythnos.
Gweithwyr maes gofal
“Mae dros 90% o weithwyr ein cartrefi gofal wedi cael eu dos cyntaf [o’r brechlyn], a bron iawn i 90% wedi cael yr ail ddos,” meddai Mark Drakeford gan bwysleisio eu bod nhw wedi cyrraedd y lefel honno drwy “berswâd, sgyrsiau, ac yn wirfoddol”.
“Felly rydyn ni’n bwrw ymlaen er mwyn trio gwneud yn siŵr fod gweddill aelodau staff yn cael cynnig y brechlyn, yn derbyn y brechlyn.
“Ond os ydych chi’n gallu gwneud hynny’n wirfoddol yna dw i’n meddwl ei fod yn sail dipyn cryfach er mwyn mynd ymlaen i berswadio pobol i wneud y peth iawn.
“Dw i’n sicr yn meddwl y dylen nhw, dyna ein barn ni yma, ond mae yna gam mawr yn cael ei gymryd pan ydych chi’n symud at orfodaeth.
“Ein cred ni yw y byddai’n tanseilio’r rhaglen yng Nghymru, sef yr un fwyaf llwyddiannus yn y Deyrnas Unedig, ac sydd wedi cael ei chwblhau ar y sail fod pawb yn gwybod eu bod nhw’n helpu eu hunain, wrth gwrs, ond yn helpu pawb arall hefyd, pan maen nhw’n derbyn eu brechlyn.
“Mae’r teimlad hwnnw o gymryd rhan yn y rhaglen yn wirfoddol yn bwysig iawn i ni, ac wedi bod yn rhan o’n llwyddiant.”
Amrywiolyn Delta “ym mhob rhan o Gymru”
Gan drafod amrywiolyn Delta, dywedodd Mark Drakeford eu bod nhw’n credu ei fod e’n bresennol “ym mhob rhan o Gymru ac mae niferoedd yn codi yn y gymuned, nid mewn lleoliadau penodol yn unig”.
“Yr unig beth mae hynny’n ei olygu yw ein bod ni angen oedi, er mwyn casglu mwy o ddata ar y graddau y bydd yr amrywiolyn newydd yn arwain at dderbyniadau i ysbytai yng Nghymru, ac i roi mwy o gyfle i ni frechu dros hanner miliwn mwy o bobol yng Nghymru, yn enwedig gydag ail ddosys, a bydd hynny’n cynyddu’r lefel o warchodaeth sydd gennym ni yn erbyn y bygythiad coronafeirws diweddaraf hwn.”
Cyfnod clo arall yn “hynod anhebygol”
Mae Mark Drakeford wedi dweud ei bod hi’n “hynod annhebygol” y bydd cyfnod clo arall yng Nghymru eleni, er nad yw’n hollol “annirnadwy” yn sgil y posibilrwydd o amrywiolion newydd yn datblygu neu ledaenu drwy’r wlad.
“Dw i ddim yn barod i ddweud nad yw’n hollol annirnadwy.
“Dw i’n meddwl ei fod e’n hynod annhebygol.
“Alla i ddweud ei bod hi’n gwbl amhosib, o ystyried y newidiadau rydyn ni’n eu gweld, o ystyried y risg y gallai amrywiolyn newydd arall ymddangos ar unrhyw adeg, unrhyw le yn y byd a allai fod yn anoddach i’w drin â’r brechlyn presennol?
“Yn syml, dyw hi ddim yn gwneud synnwyr i fod mor bendant â hynny.”
Yr Ewros
Wrth siarad gyda BBC Radio Wales am yr Ewros, dywedodd y Prif Weinidog fod y dadleuon o blaid ac yn erbyn creu ardaloedd penodol i gefnogwyr Cymru wylio’r gemau yn “eithaf cytbwys”.
“Byddwn ni’n parhau i gael trafodaethau gydag awdurdodau lleol a fyddai’n gyfrifol am y parthau i gefnogwyr,” meddai Mark Drakeford.
“Dw i’n meddwl fod y ddadl yn eithaf cytbwys – a yw’n fwy diogel cael amgylchedd sy’n cael ei rheoli lle gall pobol ddod at ei gilydd a mwynhau’r pêl-droed fel hynny? Neu drwy gael parth cefnogi rydych chi’n denu niferoedd uchel iawn o bobol a methu ei drefnu mewn ffordd sy’n cadw pobol yn saff?
“Rydyn ni’n parhau i gael cyngor gan arbenigwyr yn y maes, yn siarad â’r heddlu, yn siarad â swyddogion iechyd amgylcheddol, ac yn parhau i drafod y mater gydag ein cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol wrth i ni obeithio fod Cymru’n mynd ymhellach yn y gystadleuaeth hon.”