Mae plaid y DUP yn chwilio am arweinydd newydd eto ar ôl i Edwin Poots gyhoeddi ei fwriad i ymddiswyddo.
Cafodd Edwin Poots ei gadarnhau i’r rôl dair wythnos yn ôl, a daw’r cyhoeddiad yn dilyn gwrthwynebiad o fewn y blaid ynghylch ei benderfyniad i enwebu Prif Weinidog newydd Gogledd Iwerddon.
Daeth y cyhoeddiad am ei ymddiswyddiad ar ôl cyfarfod brys gyda swyddogion y blaid yn Belffast neithiwr (17 Mehefin).
Fe wnaeth y rhan fwyaf o Aelodau Cynulliad Gogledd Iwerddon y DUP, a’u Haelodau Seneddol, bleidleisio yn erbyn penderfyniad Edwin Poots i ad-drefnu gweinyddiaeth Stormont.
Roedd dicter o fewn y blaid ynghylch addewid Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ganiatáu i Sinn Fein gyflwyno deddfau’n ymwneud â’r Wyddeleg.
Mae’n annhebygol y bydd arweinydd newydd y DUP yn cadw’r Prif Weinidog newydd, Paul Givan, yn ei rôl, ac mae’n bosib y bydd e’n ymddiswyddo cyn hynny.
Ni fydd cyfarfod rhwng Gweinyddiaeth Gogledd Iwerddon a Llywodraeth Iwerddon yn cael ei gynnal yn Armagh heddiw, fel y bwriadwyd.
Bydd aelodau’r DUP yng Nghynulliad Iwerddon ac yn San Steffan yn penderfynu pwy fydd yr arweinydd nesaf, a Syr Jeffrey Donaldson, a gollodd y ras am yr arweinyddiaeth fis diwethaf o 17 pleidlais i 19, fydd y ffefryn gan nifer.
“Cyfnod anodd”
“Dw i wedi gofyn i gadeirydd y blaid fwrw ymlaen â’r broses etholiadol o fewn y blaid er mwyn caniatáu i arweinydd newydd y DUP gael ei ethol,” meddai Edwin Poots mewn datganiad ar ôl y cyfarfod neithiwr (Mehefin 17).
“Mae’r blaid wedi gofyn i mi aros yn fy rôl nes bydd fy olynydd yn cael ei ethol.
“Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd i’r blaid ac i’r wlad.”
Cefndir
Cafodd Edwin Poots ei ethol fel olynydd Arlene Foster, y cyn-Brif Weinidog yn dilyn gwrthwynebiad yn ei herbyn gan gefnogwyr Edwin Poots.
Fe fu ffrae rhwng y DUP a Sinn Fein yn bygwth dyfodol y sefydliad yn Stormont ers tro.
Cododd y ffrae i’w hanterth yr wythnos hon yn dilyn cyhoeddiad y prif weinidog Arlene Foster ei bod hi’n camu o’r neilltu, a’r angen i benodi arweinwyr newydd.
Yn ôl natur y swydd, os yw’r prif weinidog yn ymddiswyddo, yna mae’n rhaid i’r dirprwy adael ei swydd hefyd, ac mae hynny wedi arwain at ymadawiad Michelle O’Neill.
Er mwyn ffurfio pwyllgor gwaith newydd ac osgoi etholiad, rhaid llenwi’r ddwy swydd erbyn 1 o’r gloch ddydd Llun (Mehefin 21).
Mae disgwyl i’r DUP enwebu Paul Givan yn brif weinidog, ond roedd Sinn Fein yn bygwth peidio enwebu Michelle O’Neill eto hyd nes bod y DUP yn rhoi sicrwydd y byddai’n bwrw ati i gyflwyno deddfwriaeth yn ymwneud â’r iaith Wyddeleg.
Mae’r ddeddfwriaeth yn cynnwys creu comisiynwyr iaith ar gyfer y Wyddeleg ac Albanwyr Ulster, yn ogystal â chreu Swyddfa Hunaniaeth a Mynegiant Diwylliannol.
Roedd y DUP wedi rhybuddio’r Llywodraeth Geidwadol i beidio ag ymyrryd gan y byddai’n mynd yn groes i ddatganoli, ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud y bydd cyfreithiau’n cael eu cyflwyno yn yr hydref pe na bai Stormont yn eu cyflwyno nhw yn y cyfamser.