Bydd 105 o swyddi newydd yn cael eu creu mewn ffatri sy’n cynhyrchu batris asid yng Nglyn Ebwy, a 360 o swyddi eraill yn cael eu diogelu.

Gyda hwb o £2.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru, bydd y cwmni o Japan, GS Yuasa, yn cynyddu’u cynhyrchiant o fatris Lithiwm a chyflwyno prosesau uwchraddio fel eu bod nhw’n defnyddio ynni’n fwy effeithlon.

Mae GS Yuasa yn arwain o fewn y farchnad ar ystod eang o fatris ar gyfer cerbydau a diwydiannau, ac mae eu ffatri yng Nglyn Ebwy yn cynhyrchu batris sy’n cael eu defnyddio’n bennaf mewn systemau Cyflenwad Pŵer Di-dor.

Yn ystod y pandemig, roedd y batris hyn hefyd yn gyfrifol am bweru ysbytai enfys y Gwasanaeth Iechyd a phrosiectau meddygol eraill.

Mae’r cwmni wedi bod yn cyflogi gweithwyr ym Mlaenau Gwent ers 1981, a bydden nhw’n sefydlu llinell gynhyrchu newydd yn y ffatri er mwyn cynhyrchu modiwlau batri Lithiwm newydd.

Bydd y cymorth ariannol, sy’n dod o Gronfa Dyfodol yr Economi Llywodraeth Cymru, yn creu cyfleoedd gwaith newydd, ac yn diogelu dyfodol hirdymor y safle.

“Newyddion gwych”

“Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn yn newyddion gwych i ddatblygiad a thwf parhaus ein busnes batris diwydiannol ledled Ewrop,” meddai Andrew Taylor, Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Swyddog Gweithredol GS Yuasa Battery Europe.

“Bydd yn ein helpu i ddiogelu ein gweithlu presennol o dros 360 o weithwyr a bydd hefyd yn ein cynorthwyo i greu dros 100 o swyddi lleol newydd wrth i ni ehangu ein gweithrediadau dros y tair i bum mlynedd nesaf.

“Mae ein cynlluniau uchelgeisiol yn cynnwys gosod offer cynhyrchu newydd sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, ffynonellau ynni adnewyddadwy a sefydlu cyfleuster gwasanaeth ac ymchwil a datblygu ar gyfer modiwlau batri Lithiwm o’r radd flaenaf.

“Bydd hyn oll yn cyfrannu at bolisi byd-eang GS Yuasa o leihau allyriadau carbon ac yn helpu i adeiladu cymdeithas fwy cynaliadwy.”

“Economi lewyrchus, teg, a gwyrdd”

“Mae GS Yuasa yn gyflogwr hynod bwysig yng Nglyn Ebwy ac mae’r newyddion bod y busnes yn buddsoddi yn ei ddyfodol i’w groesawu’n fawr,” meddai Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi Cymru.

“Rwy’n falch iawn ein bod yn cefnogi cynlluniau’r cwmni ac y bydd cymaint o swyddi newydd o safon yn cael eu creu.

“Mae ein Cronfa Dyfodol yr Economi yn parhau i fod yn hanfodol i gefnogi busnesau ledled Cymru a bydd yn allweddol i helpu busnesau fel GS Yuasa i ffynnu ar ôl pandemig. Bydd hyn yn amhrisiadwy wrth i’r cwmni baratoi i ymateb i heriau a chyfleoedd yn y dyfodol.

“Mewn cyfnod economaidd mor eithriadol o anodd, bydd yr hwb ariannol hwn hefyd yn hwb gwirioneddol i drigolion a’n gweledigaeth uchelgeisiol ond cyraeddadwy ar gyfer Cymoedd Technoleg er mwyn sbarduno twf ar draws blaenau’r Cymoedd. Mae ymchwil a datblygu, arloesi a datgarboneiddio wrth wraidd ein rhaglen Cymoedd Technoleg, felly mae’r gwaith arloesol y mae GS Yuasa yn ei wneud yn enghraifft wych o’r camau hyn ar waith.

“Mae cyhoeddiad heddiw hefyd yn cefnogi gweledigaeth ein Cenhadaeth Cydnerthedd ac Ailstrwythuro Economaidd i sicrhau bod ein heconomi’n fwy llewyrchus, teg a gwyrdd nag erioed o’r blaen.”