Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymddiheuro am “fethu” dioddefwyr trais rhywiol, yn sgil gostyngiad yn nifer yr erlyniadau neu euogfarnau dros y blynyddoedd diwethaf.

Wrth ymddiheuro, fe wnaethon nhw fanylu ar gynlluniau i greu “newid yn y system ac mewn diwylliannau”, a fydd yn cynnwys canolbwyntio mwy ar ymddygiad yr amddiffynnydd, yn hytrach na’r dioddefwr.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Robert Buckland, a’r Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, fod ganddyn nhw “gryn gywilydd” fod llai o droseddwyr yn cael eu herlyn am droseddau rhywiol.

Mae ffigurau’n dangos bod cyfanswm o 6,855 o achosion o drais wedi cael eu cyfeirio at Wasanaeth Erlyn y Goron yn 2015-16, gyda 4,643 o erlyniadau. Roedd tua 13% o achosion o drais gafodd eu cofnodi wedi arwain at gyhuddo person oedd yn cael eu hamau o drais – gyda’r ffigwr yn gostwng i 3% yn unig yn 2019-20.

Mae mesurau i fynd i’r afael â’r sefyllfa’n yn cynnwys llai o groesholi dioddefwyr mewn llysoedd drwy recordio cyfweliadau o flaen llaw, cydnabyddiaeth dros Gymru a Lloegr mai dim ond cwynion sy’n berthnasol i’r achos y dylid eu hystyried, a mynd at ymchwiliadau gydag agwedd newydd fod yna “asesiad cynnar a manwl i ymddygiad a phatrymau troseddu’r amddiffynnydd”.

“Mae’r sefyllfa bresennol yn gwbl annerbyniol, ac mae’r Llywodraeth yn benderfynol o’i newid: mae hynny’n ddyledus i bob dioddefwr, ac rydyn ni’n ymddiheuro’n daer fod y system wedi cyrraedd y pwynt hwn,” meddai’r adroddiad, a gafodd ei gomisiynu dros ddwy flynedd yn ôl.

Mae ymgyrchwyr wedi croesawu’r ymddiheuriad, ond mae’r Fonesig Vera Baird, y comisiynydd dioddefwyr, wedi honni fod yr adroddiad yn “crybwyll rhai cyfleoedd gafodd eu methu”.

“Cryn gywilydd”

Dangosa ystadegau diweddaraf Gwasanaeth Erlyn y Goron fod 1,439 o bobol wedi’u cyhuddo o drais, neu droseddau rhywiol eraill, yng Nghymru a Lloegr yn 2019-20 – sef y lefel isaf ers dechrau cadw cofnodion a 1,925 yn llai na’r flwyddyn flaenorol, er bod bron i ddwbl nifer yr achosion o drais rhywiol wedi’u hadrodd i’r heddlu o gymharu ag yn 2015-16.

Mae amcangyfrif yn awgrymu fod yna 128,000 o ddioddefwyr trais rhywiol ac ymgeision ar drais rhywiol bob blwyddyn, ond mai dim ond 1.6% o achosion sy’n cael eu hadrodd i’r heddlu sy’n arwain at gyhuddiad.

“Mae gennym ni gryn gywilydd o’r tueddiadau hyn. Mae dioddefwyr trais rhywiol yn cael eu gadael lawr,” meddai Priti Patel, Robert Buckland, a’r Twrnai Cyffredinol Michael Ellis.

“Mae miloedd o ddioddefwyr wedi mynd heb gyfiawnder. Ond dydi hyn ddim am y ffigurau’n unig – mae pob achos yn cynnwys person o gig a gwaed sydd wedi dioddef trosedd wirioneddol ofnadwy.

“Ein hamcan, sydd yn y cyhoeddiad hwn, yw deall pam ein bod ni’n methu dioddefwyr trais rhywiol, a chywiro hyn.”

“Argyfwng gwirioneddol”

Dywedodd Katie Russell, llefarydd cenedlaethol dros Rape Crisis yng Nghymru a Lloegr, fod yna nifer o bethau cadarnhaol yn yr adroddiad, ond ei bod hi’n poeni am y diffyg brys i greu newid.

“Dydyn ni ddim yn gwybod eto a fydd yr hyn sydd wedi’i gyhoeddi heddiw’n ddigon,” meddai Katie Russell.

“Ond rydyn ni’n gobeithio y bydd yn arwain at newid, ac rydyn ni’n gobeithio’n fawr y bydd yn llwyddiant – mae’n rhaid iddo fod yn llwyddiant er lles dioddefwyr a goroeswyr sy’n cael eu hesgeuluso ar hyn o bryd, a dioddefwyr a goroeswyr y dyfodol.

“Mae’r gwelliannau hynny yn hirddisgwyliedig – mae hwn yn argyfwng gwirioneddol.”

Daw’r adroddiad ar ôl i adroddiad damniol gan Ofsted ddangos fod aflonyddu rhywiol wedi cael ei “normaleiddio” mewn ysgolion yn Lloegr.

Yn sgil hynny, a thystiolaeth gan ddisgyblion a myfyrwyr ysgol o dros 90 ysgol a choleg yng Nghymru, bydd Estyn yn ymchwilio i’r sefyllfa yng Nghymru hefyd.