Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cipio sedd Chesham ac Amersham gan y Ceidwadwyr mewn isetholiad hanesyddol.
Sarah Green yw’r Aelod Seneddol newydd ar ôl cipio’r sedd, sydd wedi bod yn gadarnle i’r Ceidwadwyr ers 1974.
Dywedodd arweinydd y blaid Syr Ed Davey y bydd y canlyniad yn “cynhyrfu gwleidyddiaeth Prydain” drwy ddangos y gallai seddi’r Torïaid yn y de fod yn y fantol.
Ond mae’r Ceidwadwyr wedi ceisio tawelu’r pryderon drwy fynnu ei bod yn anodd i bleidiau sydd mewn grym ennill isetholiadau. Roedd Peter Fleet, yr ymgeisydd a gafodd ei drechu, yn cydnabod bod angen i’r Ceidwadwyr adfer “ymddiriedaeth” gyda’r pleidleiswyr.
“Digon yw digon”
Cafodd yr isetholiad ei gynnal yn dilyn marwolaeth cyn-weinidog y Cabinet, a chyn-Ysgrifennydd Cymru, y Fonesig Cheryl Gillan, a oedd wedi ennill y sedd gyda mwyafrif o 16,233 yn yr etholiad cyffredinol yn 2019, sef tua 55% o’r pleidleisiau.
Fe gipiodd Sarah Green 56.7% o’r pleidleisiau i sicrhau mwyafrif o 8,028 dros y Ceidwadwyr, a ddaeth yn ail.
Y Blaid Werdd ddaeth yn drydydd gyda 1,480 o bleidleisiau a Llafur yn bedwerydd gyda dim ond 622 o bleidleisiau.
Yn ei haraith dywedodd Sarah Green bod y Ceidwadwyr wedi “cymryd pobl yn ganiataol” a “digon yw digon, fe fyddwn ni’n cael ein clywed ac fe fydd y Llywodraeth yma yn gwrando.”