Bydd yr ansicrwydd ynghylch llacio’r cyfyngiadau Covid-19 yn arwain at “bryderon gwirioneddol ar gyfer y dyfodol” i’r diwydiant lletygarwch, meddai Rhun ap Iorwerth, dirprwy arweinydd Plaid Cymru.
Mae’n cydnabod fod yr ansicrwydd ynghylch amrywiolyn Delta yn gwneud llacio’n anodd, ond mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig “arweiniad a chefnogaeth” i’r diwydiant lletygarwch.
Cafodd adolygiad o’r cyfyngiadau ei gynnal yr wythnos hon, hanner ffordd trwy’r cylch tair wythnos diweddaraf.
Cafodd y cyfyngiadau ar weithgareddau awyr agored eu llacio ar Fehefin 7.
Y cyfyngiadau
Er na fydd newidiadau mawr yn ystod y mis nesaf, bydd adolygiad pellach ar Orffennaf 15, gyda mân newidiadau’n cael eu gwneud er mwyn egluro’r cyfyngiadau ychydig yn well.
Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
- Bydd nifer y bobol sy’n cael mynd i briodasau neu seremonïau partneriaeth sifil neu i de angladd mewn lleoliad dan do yn ddibynnol ar faint y lleoliad ac asesiad risg
- Bydd lleoliadau cerddoriaeth neu gomedi byw yn cael gweithredu yn yr un modd â lleoliadau lletygarwch eraill megis tafarnau a chaffis.
- Bydd plant ysgol gynradd yn yr un grwpiau cyswllt yn yr ysgol neu swigen yn cael aros dros nos mewn canolfan addysg breswyl
Bydd digwyddiadau peilot yn cael parhau.
‘Testun pryder gwirioneddol i ddiwydiant cyfan’
“Rhaid i ni aros yn obeithiol y bydd tystiolaeth yn dangos yn fuan fod y rhaglen frechu yn cynnig amddiffyniad yn erbyn yr amrywiolyn Delta newydd, ond hyd nes bod gwybodaeth ddigonol yn cael ei chasglu, rhaid bod yn ofalus,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Mae nifer yn y diwydiant lletygarwch yn dal i deimlo gwasgfa’r bwlch ariannu nad oes eglurhad ar ei gyfer o fis Ebrill eleni.
“Yn erbyn cefnlen yr amrywiolyn Delta, a’r sôn am ragor o gyfnodau clo, mae hyn yn destun pryder gwirioneddol i ddiwydiant cyfan.
“Bydd lletygarwch – ac yn wir pob busnes yng Nghymru – yn edrych tuag at Lywodraeth Cymru i gynnig arweiniad a chefnogaeth ar adeg pan fog an nifer bryderon gwirioneddol ar gyfer y dyfodol.
“Mae angen yr arweiniad a’r gefogaeth honno hefyd ar y sector iechyd, sydd yn ymwybodol iawn o’r rhes hir sy’n eu hwynebu nhw bellach.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth posib i helpu byrddau iechyd i gyflymu’r brechu, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae’r amrywiolyn Delta yn lledu gyflymaf.”