Fe fydd y prif weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi ddydd Gwener (Mehefin 18) fod Llywodraeth Cymru am oedi am bedair wythnos cyn llacio cyfyngiadau Covid-19, a hynny wrth i’r amrywiolyn Delta ymledu trwy gymunedau.

Bydd y broses o roi ail ddos o frechlynnau’n cael ei chyflymu yn ystod y mis nesaf, a’r disgwyl yw y bydd mwy na hanner miliwn dos yn cael eu rhoi.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod bron i 490 o achosion o’r amrywiolyn Delta yng Nghymru, fod pedwar o bob pump o achosion newydd yn ymwneud â’r amrywiolyn, ac nad yw dau draean o’r achosion hyn o ganlyniad i deithio na dod i gysylltiad ag achos arall, sy’n awgrymu bod yr amrywiolyn yn ymledu trwy gymunedau.

Roedd y gyfradd achosion wedi codi’n gyson hyd at ddiwedd mis Mai, ac mae’r gyfradd bositif wedi mwy na dyblu – ond mae’n dal yn is nag unman arall yng ngwledydd Prydain.

“Mewn ychydig wythnosau yn unig, mae amrywiolyn delta wedi cyrraedd Cymru ac wedi lledaenu drwy’r wlad yn gyflym,” meddai Mark Drakeford.

“Mae’r cyfraddau trosglwyddo yn cyflymu, nid dim ond yn y Gogledd a’r De-ddwyrain ond ym mhob rhan o Gymru.

“Bellach, dyma’r amrywiolyn mwyaf cyffredin mewn achosion newydd yng Nghymru. Unwaith eto, rydyn ni’n wynebu sefyllfa ddifrifol o ran iechyd y cyhoedd.

“Mae gennym ni’r cyfraddau coronafeirws isaf yn y DU, a’r cyfraddau brechu uchaf.

“Gallai oedi am bedair wythnos cyn llacio’r cyfyngiadau helpu i leihau’r niferoedd uchaf o dderbyniadau dyddiol i’r ysbyty o hyd at hanner, ar adeg pan fo’r Gwasanaeth Iechyd yn brysur iawn yn ceisio diwallu’n holl anghenion gofal iechyd – nid dim ond trin y coronafeirws.”

Adolygu’r cyfyngiadau

Cafodd adolygiad o’r cyfyngiadau ei gynnal yr wythnos hon, hanner ffordd trwy’r cylch tair wythnos diweddaraf.

Cafodd y cyfyngiadau ar weithgareddau awyr agored eu llacio ar Fehefin 7.

Er na fydd newidiadau mawr yn ystod y mis nesaf, bydd adolygiad pellach ar Orffennaf 15, gyda mân newidiadau’n cael eu gwneud er mwyn egluro’r cyfyngiadau ychydig yn well.

Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Bydd nifer y bobol sy’n cael mynd i briodasau neu seremonïau partneriaeth sifil neu i de angladd mewn lleoliad dan do y nddibynnol ar faint y lleoliad ac asesiad risg
  • Bydd lleoliadau cerddoriaeth neu gomedi byw yn cael gweithredu yn yr un modd â lleoliadau lletygarwch eraill megis tafarnau a chaffis.
  • Bydd plant ysgol gynradd yn yr un grwpiau cyswllt yn yr ysgol neu swigen yn cael aros dros nos mewn canolfan addysg breswyl

Bydd digwyddiadau peilot yn cael parhau.