Mae pennaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru wedi rhybuddio bod y system o dan “bwysau sylweddol”.

Yn ôl Dr Andrew Goodall, mae’r angen i barhau â mesurau diogelwch Covid-19 yn golygu bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan straen.

Dangosa’r data ar gyfer mis Ebrill bod 595,272 ar restrau aros yng Nghymru, sydd yn uwch na’r mis blaenorol ac yn 29% yn uwch na chyn y pandemig.

Mae’r ffigyrau hefyd yn datgelu 2,813 o bobol wedi ymweld ag adrannau brys ysbytai yn ystod mis Mai.

“Mae’n bwysau sylweddol, rwy’n credu ei fod yn sylweddol am wahanol resymau,” meddai Dr Goodall.

“Mae staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol eisiau sicrhau ein bod yn gallu cefnogi ein cleifion ledled Cymru, a sicrhau eu bod yn gallu cael eu gweld o fewn y lefel briodol ac yn derbyn y gwasanaethau cywir.

‘Anodd’

“Ond maen nhw’n gorfod cydbwyso’r twf mewn pwysau brys sydd yn ôl i lefelau arferol.

“Maen nhw dal yn gorfod amddiffyn staff a chleifion sy’n gweithio o’u cwmpas.

“A rhain ydy’r un staff sydd wedi bod yno drwy’r pandemig, sy’n gorfod canolbwyntio ar y gwasanaethau newydd hefyd.

“Felly mae hynny’n gyfuniad anodd iawn. Dyma pam y bydd rhywfaint o’r buddsoddiad sy’n dod i mewn yn ein helpu i ddod i benderfyniadau am y dyfodol.

“Mae’n un rheswm pam fy mod i eisiau i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol adeiladu ar ben rhai o’r sylfeini hynny sydd ar waith ar gyfer gweithio’n wahanol.”

Covid-19 yn cynnyddu

Mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod rhagor na 140 o achosion newydd positif o Covid-19 wedi’u cofnodi ar draws Cymru, yn ôl.

Mae nifer yr achosion newydd o’r amrywiolyn Delta wedi codi i 488 yn ôl y ffigyrau diweddaraf, sydd yn gynnydd o 173 achosion ers y diweddariad diwethaf ar 14 Mehefin.

Dywedodd Dr Eleri Davies, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i’r Coronafeirws yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym yn deall y gallai pobl fod yn bryderus am y cynnydd mewn achosion ond mae llawer y gallwn ei wneud i amddiffyn ein hunain ac eraill.

“Mae mor bwysig manteisio ar y cynnig i gael y ddau frechiad pan fyddwch yn ei gael, oherwydd bod y dystiolaeth ddiweddaraf yn dangos bod brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca yn effeithiol yn erbyn amrywiolyn Delta ar ôl dau ddos.”