Mae’n ymddangos bod modd penodi penaethiaid yn Stormont ar ôl i wleidyddion yng Ngogledd Iwerddon ddod i gytundeb ynghylch deddfwriaeth yn ymwneud â’r iaith Wyddeleg.

Roedd y sefydliad yn wynebu argyfwng ond daeth cadarnhad gan San Steffan neithiwr (nos Fercher, Mehefin 16) y bydd cyfreithiau’n cael eu cyflwyno yn yr hydref pe na bai Stormont yn eu cyflwyno nhw yn y cyfamser.

Roedd hynny’n ddigon i annog Sinn Fein i dynnu bygythiad yn ôl i beidio ag enwebu dirprwy brif weinidog – cam a fyddai wedi atal cytundeb.

Daw’r datblygiad diweddaraf yn dilyn noson arall o drafodaethau rhwng Brandon Lewis, Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon a chynrychiolwyr y DUP a Sinn Fein yn Belffast.

Mae disgwyl i’r enwebiadau gael eu cyflwyno’n ddiweddarach heddiw (dydd Iau, Mehefin 17), ac mae’r awdurdodau wrthi’n llunio amserlen i drafod deddfwriaeth yn ymwneud â’r iaith.

Pe bai’r enwebiadau’n cael eu cymeradwyo, gall gwleidyddion yn Stormont fynd ati i drafod llacio cyfyngiadau Covid-19 yng Ngogledd Iwerddon.

Yr iaith Wyddeleg

Yn ôl Brandon Lewis, mae’n dal i ffafrio cyflwyno cyfreithiau’n ymwneud â’r iaith Wyddeleg drwy’r Cynulliad gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol â’r disgwyliadau yn ôl y cytundeb Degawd Newydd Dull Newydd y llynedd.

“Dw i’n siomedig nad yw eto wedi cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon yn y Cynulliad,” meddai.

“Fodd bynnag, yn dilyn fy nhrafodaethau dwys gyda’r pleidiau dros y dyddiau diwethaf, gallaf gadarnhau pe na bai’r Pwyllgor Gwaith wedi cyflwyno deddfwriaeth erbyn diwedd mis Medi, y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth drwy’r Senedd yn San Steffan.

“Os daw’n angenrheidiol, byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth ym mis Hydref 2021.

“Rwy’ nawr yn disgwyl i’r DUP a Sinn Fein enwebu prif weinidog a dirprwy brif weinidog yn y Cynulliad y cyfle cyntaf heddiw.

“Maen nhw wedi cadarnhau wrthyf y byddan nhw’n gwneud hyn, gan adlewyrchu eu hymrwymiadau parhaus i bob agwedd ar y cytundeb Degawd Newydd Dull Newydd.

“Bydd hyn yn galluogi’r Pwyllgor Gwaith i ddychwelyd i ganolbwyntio ar weithredu ar y materion sydd wir o bwys i bobol Gogledd Iwerddon, materion megis gofal iechyd, tai, addysg a swyddi.”

Cefndir

Fe fu ffrae rhwng y DUP a Sinn Fein yn bygwth dyfodol y sefydliad yn Stormont ers tro.

Cododd y ffrae i’w hanterth yr wythnos hon yn dilyn cyhoeddiad y prif weinidog Arlene Foster ei bod hi’n camu o’r neilltu, a’r angen i benodi arweinwyr newydd.

Yn ôl natur y swydd, os yw’r prif weinidog yn ymddiswyddo, yna mae’n rhaid i’r dirprwy adael ei swydd hefyd, ac mae hynny wedi arwain at ymadawiad Michelle O’Neill.

Er mwyn ffurfio pwyllgor gwaith newydd ac osgoi etholiad, rhaid llenwi’r ddwy swydd erbyn 1 o’r gloch ddydd Llun (Mehefin 21).

Mae disgwyl i’r DUP enwebu Paul Givan yn brif weinidog, ond roedd Sinn Fein yn bygwth peidio enwebu Michelle O’Neill eto hyd nes bod y DUP yn rhoi sicrwydd y byddai’n bwrw ati i gyflwyno deddfwriaeth yn ymwneud â’r iaith Wyddeleg.

Mae’r ddeddfwriaeth yn cynnwys creu comisiynwyr iaith ar gyfer y Wyddeleg a Sgots Ulster, yn ogystal â chreu Swyddfa Hunaniaeth a Mynegiant Diwylliannol.

Mae Edwin Poots, arweinydd newydd y DUP, wedi gwrthod rhoi sicrwydd ynghylch y ddeddfwriaeth hyd yn hyn ac fe wnaeth Sinn Fein ofyn i Lywodraeth Prydain ymyrryd yn y ffrae er mwyn cyflwyno deddfwriaeth yn San Steffan.

Ond roedd y DUP wedi rhybuddio’r Llywodraeth Geidwadol i beidio ag ymyrryd gan y byddai’n mynd yn groes i ddatganoli.

‘Croeso gofalus’

“Fwy na 500 o ddiwrnodau’n ddiweddarach, rydym bellach wedi derbyn ymrwymiad gan Lywodraeth Prydain y byddan nhw’n cyflwyno’r ddeddfwriaeth iaith erbyn mis Hydref, os yw’r Cynulliad yn methu â gwneud hynny erbyn mis Medi,” meddai Dr Niall Comer, Llywydd Conradh na Gaeilge.

“Mae hwn yn ddatblygiad i’w groesawu yn yr ymgyrch tros hawliau iaith yma, ac mae’n ganlyniad i’r ymgyrch gymunedol hirdymor am #AchtAnois dros nifer o flynyddoedd.

“Hoffem gymeradwyo pawb sy’n parhau i sefyll i fyny tros hawliau iaith yma a’u hymrwymiad i’r ymgyrch.”

Ond mae Conchúr Ó Muadaigh, Rheolwr Eiriolaeth Conradh na Gaeilge, wedi rhoi “croeso gofalus” i’r datblygiad.

“Mae’r DUP yn gwrthod cadw at eu hymrwymiadau o ran Degawd Newydd Dull Newydd o ran yr iaith Wyddeleg,” meddai.

“Nawr, mae llywodraethau Prydain ac Iwerddon wedi camu i mewn fel cyd-gwarantwyr y cytundebau.

“Rhaid rhoi croeso gofalus i’r ymyrraeth hon, o ystyried nad yw Llywodraeth Prydain wedi gweithredu ar ymrwymiad St Andrew’s 2006 i gyflwyno Deddf Iaith Wyddeleg hyd yn hyn, ac o ystyried eu record hanesyddol o ran hawliau iaith yma.

“Byddwn ni nawr yn cydweithio â phleidiau lleol i geisio cyflawni gweithredu’n lleol yn gyntaf ac, ochr yn ochr â’r ymdrechion hynny, byddwn yn parhau â’n gwaith gyda phleidiau San Steffan i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn dod trwod yn y mandad hwn yn ôl yr addewid.”