Mae Pennaeth Gwasanaeth Iechyd Cymru wedi rhybuddio bod y system dan “bwysau sylweddol”, a bod “cyfuniad anodd” o ffactorau’n achosi’r straen.

Wrth i wasanaethau geisio dychwelyd i’w lefelau arferol, mae Dr Andrew Goodall wedi dweud wrth BBC Cymru bod rhaid i staff ymdopi â’r twf mewn cleifion sy’n ymweld ag adrannau brys hefyd.

Dangosa’r data diweddaraf, ar gyfer mis Ebrill eleni, fod 595,272 o bobol ar restrau aros y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn ystod y mis, sy’n gynnydd ers mis Mawrth.

Ers dechrau’r pandemig, mae 29% o gynnydd wedi bod yn nifer y bobol sydd ar y rhestrau aros yn y wlad.

Daw hyn ar ôl i feddygon teulu rybuddio’n ddiweddar am gynnydd sylweddol yn y galw am eu gwasanaethau.

‘Pwysau sylweddol’

Dywed Andrew Goodall fod nifer y cleifion sy’n ymweld ag adrannau brys wedi dychwelyd at lefelau cyn y pandemig, ond bod yr angen i barhau â mesurau diogelwch Covid-19 mewn ysbytai yn ychwanegu at y pwysau.

“Mae’n bwysau sylweddol, rwy’n credu ei fod yn sylweddol am wahanol resymau,” meddai Andrew Goodall.

“Mae staff y Gwasanaeth Iechyd eisiau sicrhau ein bod yn gallu cefnogi ein cleifion ledled Cymru, a sicrhau eu bod yn gallu cael eu gweld o fewn y lefel briodol ac yn derbyn y gwasanaethau cywir.

“Ond maen nhw’n gorfod cydbwyso’r twf mewn pwysau brys sydd yn ôl i lefelau arferol. Maen nhw dal yn gorfod amddiffyn staff a chleifion sy’n gweithio o’u cwmpas [rhag dal Covid-19].

“A rhain ydy’r un staff sydd wedi bod yno drwy’r pandemig, sy’n gorfod canolbwyntio ar y gwasanaethau newydd hefyd.

“Felly mae hynny’n gyfuniad anodd iawn. Dyma pam y bydd rhywfaint o’r buddsoddiad sy’n dod i mewn yn ein helpu i ddod i benderfyniadau am y dyfodol.

“Mae’n un rheswm pam fy mod i eisiau i’r Gwasanaeth Iechyd adeiladu ar ben rhai o’r sylfeini hynny sydd ar waith ar gyfer gweithio’n wahanol.”

‘Ailfeddwl radical’

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi bod £100m cychwynnol yn cael ei roi tuag at helpu byrddau iechyd i wella gwasanaethau ar draws gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal ysbyty.

Ar ben hynny, mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn galw am “ailfeddwl radical” a chreu canolfannau nad ydyn nhw yn trin Covid i fynd i’r afael â’r rhestrau aros.

Yn ôl cyfarwyddwyr y Coleg Brenhinol yng Nghymru, mae yna “frys i ddatblygu’r safleoedd hyn” yng Nghymru.

“Rydym am i’r safleoedd hyn gynnig triniaethau syddd wedi’u cynllunio o flaen llaw,” meddai Richard Johnson.

“Nid ydym yn siarad am safleoedd newydd, rydym yn sôn am ad-drefnu’r safleoedd sydd gennym yng Nghymru eisoes.”

Ychwanegodd fod rhaid cael “trafodaeth agored a gonest” ynghylch goblygiadau peidio â newid y ffordd mae ysbytai wedi cael eu trefnu ar hyn o bryd, a bod arolwg gan y Coleg Brenhinol yn dangos bod cleifion yn barod i deithio er mwyn cael eu trin mewn canolfannau newydd ledled Cymru.

Mwy o bobol nag erioed ar restrau aros Gwasanaeth Iechyd Cymru

Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi buddsoddiad gwerth £100m wrth i ffigurau diweddaraf ddangos bod 18% o boblogaeth y wlad ar restrau aros