Bydd adroddiad ynghylch diogelwch yn Arena Manceinion yn cael ei gyhoeddi brynhawn heddiw (dydd Iau, Mehefin 17).

Mae gwrandawiadau yn ymwneud â’r digwyddiad, lle cafodd 22 o bobol eu llofruddio a channoedd eu hanafu ar ddiwedd cyngerdd Ariana Grande ym mis Mai 2017, wedi’u cynnal ers mis Medi y llynedd.

Bydd canfyddiadau’r barnwr Syr John Saunders yn ymddangos mewn tair cyfrol, a bydd adroddiadau pellach ar ymateb y gwasanaethau brys a phrofiadau’r rhai fu farw yn cael eu cyhoeddi’n hwyrach.

Mewn adroddiad arall, bydd dadansoddiad yn edrych ar a ellid fod wedi atal y digwyddiad, yn ogystal â throseddau Salman Abedi, 22 oed.

Yn yr adroddiad cyntaf i’r Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, bydd Syr John Saunders yn edrych ar drefniadau diogelwch tu mewn a thu allan i’r Arena.

Digwyddiadau

Am 10:31yh ar Fai 22 2017, cerddodd Salman Abedi, a oedd wedi’i eni ym Manceinion, ar draws gyntedd City Room tuag at brif ddrysau’r arena gan danio bom wrth i filoedd o bobol, gan gynnwys llawer o blant, adael y cyngerdd.

Clywodd y gwrandawiad ei fod wedi bod yn yr Arena dair gwaith cyn y tro olaf, a bu yn ei gwrcwd am bron i awr yn lledlawr y City Room, yn gweddïo’n achlysurol, cyn cerdded i’r cyntedd.

Fe wnaeth Christopher Wild, a oedd yn disgwyl am ei ferch, weld Abedi, a gofynnodd iddo beth oedd yn ei fag cefn, a dywedodd Abedi ei fod yn “aros am rywun”.

Roedd Christopher Wild yn meddwl ei fod e’n edrych yn “nerfus” ac allan o’i le, a chododd ei bryderon gyda’r stiward, Mohammed Agha, a oedd yn gwarchod yr allanfa frys.

Clywodd y gwrandawiad fod wyth munud arall wedi mynd heibio heibio cyn bod Mohammed Agha wedi rhannu’r pryderon gyda’i gydweithiwr, Kyle Lawler, gan nad oedd gan hwnnw radio a doedd e ddim yn credu ei fod e’n gallu gadael ei safle.

Daeth dau arbenigwr annibynnol ar ddiogelwch i’r casgliad fod Mohammed Agha a Kyle Lawler, a oedd yn 19 ac 18 oed ar y pryd, heb eu goruchwylio nac wedi cael hyfforddiant addas.

Clywodd y gwrandawiad y byddai cau’r drysau cefn i’r cyntedd wedi atal rhai pobol rhag cael anafiadau, ond mewn “realiti”, byddai Abedi wedi ffrwydro’r bom beth bynnag.

‘Annerbyniol’

Clywodd y gwrandawiad hefyd na wnaeth neb edrych ar y lledlawr pan oedd Abedi yno yn ei gwrcwd, a doedd Heddlu Trafnidiaeth Prydain ddim yn bresennol yn y cyntedd pan ffrwydrodd y bom.

Yn ôl y cyfarwyddiadau, roedd un swyddog i fod yn y cyntedd ar ddiwedd y cyngerdd.

Daeth i’r amlwg hefyd fod dau o swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi cymryd egwyl “annerbyniol” am ddwyawr, gan gynnwys i brynu kebab.

Mae disgwyl i Syr John Saunders wneud argymhellion ar Ddyletswydd i Amddiffyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n mynd drwy broses ymgynghori ar hyn o bryd.

Byddai’r Ddyletswydd i Amddiffyn yn ei gwneud hi’n ofynnol yn gyfreithiol i leoliadau amddiffyn pobol mewn mannau cyhoeddus.

Dynes o’r Gogledd wedi gweld bomiwr Arena Manceinion funudau cyn y ffrwydrad

Sarah Nellist yn sôn sut y bu iddi ddilyn car â sticer Draig Goch er mwyn dychwelyd adref ar y noson