Mae dwy o longau’r Llynges oedd yn gwarchod arfordir Cernyw yn ystod uwchgynhadledd y G7 yng Nghernyw wedi cael eu gweld ym Marina Abertawe, ac mae llefarydd ar ran y Llynges wedi dweud wrth golwg360 y gallen nhw ddychwelyd eto dros yr wythnosau nesaf.

Cyrhaeddodd HMS Blazer a HMS Smiter neithiwr (nos Fercher, Mehefin 17).

Cyrhaeddodd y llongau gyda thri chwch cyflym, yn ôl tystion oedd yno.

Mae canolfan i gadetiaid y Llynges yn ardal y Marina.

Mae golwg360 wedi cael cadarnhad gan y Weinyddiaeth Amddiffyn y bydd criw’r llongau’n cydweithio â’r cadetiaid yn ystod eu hymweliadau.

“Fel rhan o’u rôl yn cefnogi hyfforddiant ar gyfer ein Hunedau Prifysgol y Llynges Frenhinol ac ymgysylltu rhanbarthol ehangach, mae cychod patrol Archer Class y Llynges Frenhinol wedi bod ym Marina Abertawe’n ddiweddar,” meddai llefarydd.

“Mae’n bosib y gwelwch chi nhw eto, neu unedau eraill o’n Sgwadron Lluoedd Arfordirol, yn yr ardal dros yr wythnosau i ddod.”

HMS Blazer

Cafodd HMS Blazer ei hadeiladu yn 1985 ac mae hi wedi’i lleoli yn Portsmouth fel arfer.

Mae ganddi griw o bump o bobol, ac mae hi’n cael ei hanfon oddi yno ddwywaith y flwyddyn fel arfer.

Pan gaiff ei defnyddio i hyfforddi cadetiaid o brifysgolion Southampton a Portsmouth, mae hi fel arfer yn cludo deg o bobol.

Hi yw prif long y Llynges ar gyfer ymweliadau gan bwysigion gwleidyddol y byd.

Yn 1993, roedd HMS Blazer yng nghanol ffrae â chychod pysgota Ffrengig ym mhorthladd Cherbourg, pan gafodd hi ei chipio gan bysgotwyr a gafodd eu harestio’n ddiweddarach wrth i awdurdodau Ffrengig fynd i’r afael â’r sefyllfa.

HMS Smiter

Cafodd HMS Smiter ei hadeiladu yn 1985 ac, fel Blazer, mae hi wedi’i lleoli yn Portsmouth fel arfer.

Roedd hi’n gwasanaethu ag Adran Clyde y Llynges tan 1990, cyn cael ei throsglwyddo i Brifysgol Glasgow.

Ers 2012, hi yw llong myfyrwyr Prifysgol Rhydychen.

Yn 2017, ynghyd â llongau HMS Archer, Ranger ac Exploit, cafodd hi ei hanfon i wledydd y Baltic i gymryd rhan yng ngweithredoedd NATO – y tro cyntaf i longau’r Llynges ymgymryd â’r fath waith.

HMS Smiter ym Marina Abertawe
HMS Smiter ym Marina Abertawe

 

Ffrae tros Brexit yn dod ag uwchgynhadledd y G7 i ben yng Nghernyw

“Un Deyrnas Unedig fawr na ellir ei rhannu,” medd Boris Johnson wrth ymateb i sylwadau Emmanuel Macron am ddwy wlad

Rhybuddio arweinwyr y G7 rhag derbyn “pregeth fombastig” gan Boris Johnson

Liz Saville Roberts yn dweud y dylai prif weinidog Prydain arwain drwy esiampl
Car heddlu ar y stryd fawr

Arestio saith yng Nghynhadledd y G7 yng Nghernyw – gan gynnwys Cymraes 21 oed

Yr heddlu’n canfod dau gerbyd yn cynnwys paent a grenadau mwg
Brechlyn

G7: Addewid Boris Johnson i roi brechlynnau i wledydd tlota’r byd

Wrth i arweinwyr byd ddod ynghyd yng Nghernyw, y prif weinidog yn cynnig 100 miliwn dos o’r brechlyn